Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi heddiw ei bod yn argyfwng hinsawdd, ar drothwy cyfarfod gyda Gweinidogion y Deyrnas Gyfunol a’r Alban yng Nghaerdydd.
Yn ôl Gweinidog yr Amgylchedd Lesley Griffiths mae’r datganiad yn neges glir gan Lywodraeth Cymru na chaiff y broses o adael yr Undeb Ewropeaidd (UE) “ein dallu i her y newid yn yr hinsawdd, sy’n bygwth ein hiechyd, ein heconomi, ein seilwaith a’n hamgylchedd naturiol.”
Wrth i weinidogion amgylchedd y DG, Cymru a’r Alban gwrdd yng Nghaerdydd heddiw (dydd Llun, Ebrill 29), dywed y Llywodraeth bod y cyhoeddiad yn tanlinellu pwysigrwydd tystiolaeth ddiweddaraf y Panel Rhynglywodraethol ar y Newid yn yr Hinsawdd a’r protestiadau diweddar ynghylch yr hinsawdd ledled y DG.
“Sbarduno ton o weithredu”
Dywedodd Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: “Rwy’n credu ein bod yn ddigon penderfynol a dyfeisgar yma yng Nghymru i allu cynnal economi carbon isel yr un pryd â chreu cymdeithas decach ac iachach.
“Rydyn ni’n gobeithio y gall y datganiad gan Lywodraeth Cymru heddiw helpu i sbarduno ton o weithredu yma ac yn rhyngwladol. Gan ein cymunedau, busnesau a sefydliadau’n hunain a seneddau a llywodraethau ledled y byd.
“Nid yw taclo’r newid yn yr hinsawdd yn rhywbeth y gallwn ei adael i unigolion a’r farchnad rydd. Rhaid wrth weithredu ar y cyd, ac mae gan y llywodraeth ran ganolog i’w chwarae yn hyn o beth.
“Does yr un wlad yn y byd wedi llwyr sylweddoli’r her ond yn union fel y gwnaeth Cymru chwarae rhan flaenllaw yn y chwyldro diwydiannol cyntaf, rwy’n credu y gall Cymru fod yn esiampl i eraill o’r hyn y gall twf amgylcheddol ei olygu.
“Mae’n deddfwriaeth ar ddatblygu cynaliadwy a’r amgylchedd eisoes yn esiampl i’r byd a rhaid inni nawr ddefnyddio’r ddeddfwriaeth honno i gyflymu camau’r newid.”
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo y bydd y sector cyhoeddus yn garbon niwtral erbyn 2030 a bydd yn cydweithio ag eraill, gan gynnwys academia, diwydiant a’r trydydd sector, i helpu rhannau eraill o’r economi i droi oddi wrth danwyddau ffosil. Fis diwethaf, cyhoeddodd Ffyniant i Bawb: Cymru Carbon Isel a’i 100 o bolisïau a chynigion i gwrdd â thargedau allyriadau carbon 2020.