Mae arolwg gan elusen blant yn dangos bod dros hanner o ferched Cymru, 52%, wedi profi aflonyddu rhywiol yn gyhoeddus.

Yn ôl yr arolwg o ferched rhwng 14 a 21 gan Plan International UK mae 32% yn cael eu haflonyddu’n llafar, fel chwibanu neu sylwadau, unwaith y mis neu fwy.

Yn fisol hefyd mae 17% yn cael eu cyffwrdd neu’n cael eu gafael bob mis, ac mae 37% yn dweud eu bod wedi cael eu dilyn yn gyhoeddus.

O’r rhain tydi 41% ohonyn nhw heb ddweud wrth unrhyw un am eu profiadau, er i 90% ddweud ei fod wedi cael effaith wael arnyn nhw.

Yn dilyn ymgyrch ‘It’s not OK’ gan elusen Plan International, mae Llywodraeth gwledydd Prydain nawr yn adnabod aflonyddu cyhoeddus fel math o drais rhyw yn ei strategaeth Trais yn Erbyn Menywod a Merched.

Mae’r elusen nawr yn galw ar Brif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, i gynnwys aflonyddu cyhoeddus yn ei strategaeth yntau i fynd i’r afael ag aflonyddu cyhoeddus yng Nghymru.

Effaith

Yn ôl y merched gafodd eu holi, dywed:

–     37% ei fod wedi gwneud iddynt deimlo’n anniogel.

–     40% ei fod wedi gwneud iddynt deimlo’n bryderus.

–     36% ei fod wedi gwneud iddynt deimlo cywilydd.

–     25% eu bod yn teimlo eu bod wedi’u diraddio.