Mae newyddiadurwr amlwg yng Nghatalwnia yn obeithiol y bydd canlyniadau’r etholiad cyffredinol yn Sbaen yn arwain at drafodaethau, cyfaddawd tros garcharorion a hyd yn oed refferendwm i’r rhanbarth.
Daeth llwyddiant i ran y pleidiau sydd o blaid annibyniaeth wedi iddyn nhw gipio 22 o seddi rhyngddyn nhw yng Nghyngres y Dirprwyon.
Roedd yn etholiad hanesyddol i’r Esquerra Republicana (ERC) a gynyddodd ei seddi o naw i 15, tra bo plaid annibyniaeth arall, y Junts per Catalunya (JxCat), wedi ennill saith sedd.
Ledled Sbaen wedyn, fe lwyddodd y Sosialwyr, o dan arweiniad Pedro Sánchez, i ennill yr etholiad gyda 123 o seddi, ond fe fydd yn rhaid iddo ddibynnu ar bleidiau llai er mwyn ffurfio llywodraeth.
“Newyddion da”
Yn ôl Albert Forns, mae canlyniadau’r etholiad yn “newyddion da” ar gyfer Catalwnia, yn bennaf oherwydd na wnaeth yr un blaid asgell-dde gyrraedd y brig.
“Fe all arlywydd sosialaidd yn Sbaen fod yn newyddion da i’r carcharorion a’r alltudion gwleidyddol,” meddai’r newyddiadurwr a’r nofelydd wrth golwg360.
“A dw i’n credu bod yna siawns am ryw fath o drafodaeth a all ein harwain at refferendwm, neu ryw fath o gytundeb newydd ar ymreolaeth.”
“Neges glir i Sbaen”
Mae Albert Forns yn credu bod llwyddiant Esquerra Republicana, y brif blaid yng Nghatalwnia ar hyn o bryd, yn arwydd bod y mudiad annibyniaeth yn “fyw ac iach” ac yn anfon “neges glir i Sbaen”.
Mae’n cyfeirio at brif ymgeisydd y blaid yn yr etholiad a’i harweinydd, Oriol Junqueras, sydd ar hyn o bryd yn y carchar am ei ran yn y refferendwm annibyniaeth yng Nghatalwnia yn 2017.
“Mae ymgeisydd Esquerra yn y carchar, ond hyd yn oed o’r fan honno fe lwyddodd i gael dros filiwn o bleidleisiau,” meddai Albert Forns.
“Mae’r mudiad annibyniaeth yn fyw ac iach, felly, ac fe fydd gennym lywodraeth fwy trugarog a serchog yn Sbaen a all, os yw Pedro Sánchez yn gweithredu â dewrder, arwain at ddatrysiad democrataidd i’r gwrthdaro.”