Bydd Prosiect Coffa Cranogwen yn cael ei lansio nos Wener (Mawrth 26), gyda’r nod o sicrhau bod cerflun iddi yn cael ei godi yn Llangrannog.

Mae’r prosiect yn cael ei gefnogi gan Monumental Welsh Women, a bydd y lansiad yn gyfle i Bwyllgor Lles Llangrannog rannu gwybodaeth am y prosiect.

Ar hyn o bryd, nid oes yr un cerflun o fenyw go-iawn yng Nghymru, a nod Monumental Welsh Women yw codi cerfluniau i goffau 5 merch.

5 menyw, 5 cerflun, 5 lleoliad, 5 mlynedd

Dechreuodd y mudiad gyda’r bwriad o geisio cael un cerflun o ddynes yng Nghaerdydd, a bu’r cyhoedd yn pleidleisio er mwyn dewis pa fenyw oddi ar y rhestr fer fyddai’n ennill.

Cyhoeddwyd ym mis Ionawr 2019 mai’r enillydd oedd Betty Campbell, prifathrawes ddu gyntaf Cymru.

Mae disgwyl i’r cerflun o Betty Campbell, yn Sgwâr Canolog Caerdydd, fod yn barod yn ystod yr haf.

Ar ôl gweld ymateb y cyhoedd i’r bleidlais, ac wedi ystyried galwadau nifer o bobol yn galw am gerfluniau i goffáu’r 5 merch, penderfynodd Monumental Welsh Women nad oedd un yn ddigon.

Erbyn hyn, mae’r mudiad yn bwriadu codi pum cerflun mewn pum lleoliad yng Nghymru er mwyn coffau pum menyw, a hynny o fewn pum mlynedd.

Yn ogystal â cherflun i Betty Campbell, maent yn gobeithio codi un i Arglwyddes Rhondda yng Nghasnewydd, Elaine Morgan yn Aberpennar, Elizabeth Andrews, a Cranogwen.

Cranogwen

Roedd Cranogwen, neu Sarah Jane Rees, yn forwr, bardd, athrawes, newyddiadurwraig, pregethwraig ac ymgyrchydd.

Daeth yn brifathrawes yn 21 oed, a hi oedd y fenyw gyntaf i ennill gwobr farddoniaeth yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym 1865.

Hi oedd y fenyw gyntaf i olygu cylchgrawn Cymraeg i fenywod – roedd Y Frythones yn ymgyrchu dros addysg i ferched.

I lansio Prosiect Coffa Cranogwen, bydd yr hanesydd Jane Aaron yn rhoi cyflwyniad i’w hanes.

Yn ogystal, bydd Pwyllgor Lles Llangrannog yn rhannu amcan y prosiect, yn dweud beth sydd eisoes wedi’i gyflawni gan Monumental Welsh Women, a beth sydd angen ei wneud ar gyfer sicrhau bod cerflun o Cranogwen yn cael ei godi yn y pentref.