Mae astudiaeth o Israel wedi tynnu sylw at effeithiolrwydd y brechlyn Pfizer/BioNTech wrth atal heintiau symptomatig Covid-19.

Rhyddhaodd Clalit, y mwyaf o bedwar darparwr gofal iechyd Israel, astudiaeth a oedd yn cymharu heintiau mewn 600,000 o Israeliaid a oedd wedi cael y brechlyn gyda 600,000 nad oeddent wedi’u himiwneiddio.

Canfu’r astudiaeth ostyngiad o 94% mewn heintiau symptomatig a gostyngiad o 92% mewn achosion difrifol o’r clefyd ymhlith y rhai gafodd eu brechu.

Dywedodd fod “effeithiolrwydd y brechlyn yn gyson ym mhob grŵp oedran”, yn enwedig wythnos ar ôl ail ddos o’r brechlyn.

Ychwanegodd yr ymchwilwyr fod canfyddiadau rhagarweiniol yr ymchwil “wedi’u hanelu at bwysleisio i’r boblogaeth sydd heb gael eu brechu fod y brechlyn yn effeithiol ac yn atal salwch difrifol”.

Lansiodd Israel ei hymgyrch frechu Covid-19 ym mis Rhagfyr.

Ers hynny, mae mwy na chwarter y boblogaeth – 2.5 miliwn o bobl – wedi derbyn dau ddos o’r brechlyn Pfizer/BioNTech, ac mae mwy na 42% wedi cael y pigiad cyntaf, yn ôl y Weinyddiaeth Iechyd.