Mae tri o swyddogion yr heddlu wedi dioddef mân anafiadau wrth ymateb i ddigwyddiad ym mae Caerdydd neithiwr (Mawrth 30).

Daw hynny wedi iddynt gael eu pledu gan wahanol wrthrychau, gan gynnwys poteli gwydr.

Cafodd dyn 21 oed a bachgen 16 oed eu harestio ar amheuaeth o droseddau yn erbyn y drefn gyhoeddus, a chafodd cyllell ei hadfer gan un ohonynt.

Erbyn y bore, roedd grisiau’r Senedd wedi eu gorchuddio mewn tomen o sbwriel, gan gynnwys poteli gwydr, bagiau plastig a bocsys cardbord cwrw yn dilyn y digwyddiad.

Dros 100 o bobl wedi ymgynnull

Roedd torf o dros 100 o bobl wedi ymgynnull ar risiau’r Senedd ar ddiwrnod poethaf y flwyddyn.

Mae’r ardal bellach yn fan poblogaidd i griwiau cyfarfod, wedi’i Gyngor Caerdydd gau ardal boblogaidd gyfagos i ffwrdd gyda ffens.

Roedd yr heddlu eisoes yn bresennol er mwyn cadw llygad ar y dorf. Yn ôl Heddlu De Cymru, roedd mwyafrif o’r dorf yn dilyn y rheolau cyn i’r digwyddiad dorri allan toc wedi 10 o’r gloch y nos.

Mewn datganiad, dywedodd Prif Arolygydd Heddlu De Cymru, Tony Williams:

“Cafodd torfeydd eu gwasgaru ar wahanol adegau drwy gydol y noson, a tua 10 o’r gloch roedd rhaid i swyddogion ymateb i ddigwyddiad treisgar ym Mae Caerdydd.

“Gwarthus”

“Cafodd dau berson eu harestio a chafodd cyllell ei hadfer gan un ohonynt.

“Roedd y trais cafodd ei anelu tuag at swyddogion yn warthus ac ni fyddwn yn goddef ymddygiad gwrthgymdeithasol a ddangosir gan y lleiafrif nos Fawrth.”

Ar hyn o bryd, mae rheolau Covid-19 Llywodraeth Cymru yn golygu mai dim grwpiau o hyd at chwech o bobl o ddwy aelwyd wahanol gall gyfarfod, tra bod yn rhaid parhau i gadw pellter cymdeithasol.

“Hollol annerbyniol”

Mewn ymateb i’r digwyddiad, dywedodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, fod ymddygiad o’r fath yn “hollol annerbyniol.”

Ychwannegodd fod pawb wedi aberthu i gadw Cymru’n ddiogel, ond bod gan bawb gyfrifoldeb i barhau i chwarae eu rhan.

Yn ddiweddarach, bu i’r Prif Weinidog, Mark Drakeford, hefyd roi ei farn gyda thrydariad: “Mae ymddygiad fel hyn yn annerbyniol,” meddai.

“Mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb personol i gadw eraill yn ddiogel, i barchu ein gilydd a’n mannau cyhoeddus hardd a rennir.”

“Cadw Caerdydd yn ddiogel”

Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd bod eu timau glanhau wedi bod yn gweithio ers 6 o’r gloch y bore i “glirio’r swm annerbyniol o sbwriel a adawyd.”

“Mae gwaith ar y raddfa hon yn gostus i drethdalwyr, yn cymryd llawer o amser, ac yn dargyfeirio adnoddau o rannau eraill o’r ddinas.

“Mae’r cyfyngiadau Covid-19 presennol yn caniatáu i hyd at chwech o bobl, o ddwy aelwyd, gyfarfod yn yr awyr agored wrth ymbellhau’n gymdeithasol a byddem yn annog ymwelwyr i Fae Caerdydd ac i’n parciau a’n mannau gwyrdd i ddilyn y rheolau hyn, a helpu i gadw Caerdydd yn ddiogel.”

Bydd Heddlu De Cymru yn parhau i gyd-weithio gyda’r Cyngor a Llywodraeth Cymru i ystyried mesurau pellach dros benwythnos gŵyl y banc.

Môr o sbwriel ym mae Caerdydd

Poteli gwydr, bagiau plastig a bocsys cardbord cwrw ymhlith y llanast