Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi galw am agor campfeydd a safleoedd lletygarwch yn yr awyr agored, cyn i Lywodraeth Cymru adolygu’r cyfyngiadau fory (Ebrill 1).
Bydd y camau nesaf sy’n cael eu hystyried gan Lywodraeth Cymru yn cael eu cyhoeddi fory ac yn dod i rym ar Ebrill 12, ddeufis wedi i Eluned Morgan, Gweinidog Iechyd y Blaid Lafur, ddweud fod ailagor campfeydd a chanolfannau hamdden yn flaenoriaeth.
Daw galwadau’r Ceidwadwyr Cymreig ynghylch ailagor y sector lletygarwch tu allan wedi i risiau’r Senedd ym mae Caerdydd gael eu gorchuddio gan domen o sbwriel ar ôl i dros 100 o bobl ymgynnull – gallwch ddarllen mwy am hynny isod.
Anhrefn ym Mae Caerdydd: Heddlu wedi eu hanafu a dau wedi eu harestio
Torri addewid?
“Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn credu y dylid agor campfeydd ar draws Cymru er lleisiant meddyliol a chorfforol pobol,” meddai Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig.
“Ddeufis yn ôl, dywedodd y Blaid Lafur y byddai hynny’n flaenoriaeth wrth lacio’r cyfyngiadau, ond maen nhw wedi torri addewid arall. Dylid cywiro hyn.
“Ac wrth ystyried nifer yr achosion a chyflymder y rhaglen frechu, rydym ni’n credu y dylid ystyried ailagor y sector lletygarwch tu allan yng Nghymru,” ychwanega Andrew RT Davies.
“Mae gweinidogion Llafur wedi codi cyfyngiadau teithio, ond mae hyn wedi creu problemau eraill megis diffyg toiledau cyhoeddus, pobol yn gadael sbwriel, ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.
“Mae rhai o’r golygfeydd dros y dyddiau diwethaf wedi achosi pryder, a dylai gweinidogion weld busnesau gyda thrwyddedau fel rhan o’r ateb, nid y broblem.
“Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi cynnig amserlen fanwl i deuluoedd, gweithwyr, a busnesau ar draws Cymru, a dylai’r Blaid Lafur ateb ein galwad a gwneud yr un fath.”
Cyhoeddodd y Ceidwadwyr Cymreig eu hamserlen ar gyfer llacio’r cyfyngiadau ddechrau’r wythnos.
Mae’r pleidiau eraill wedi ymateb ers hynny, gyda Phlaid Cymru’n dweud fod y Ceidwadwyr yn “gwbl anghymwys i reoli Cymru,” a’r Blaid Lafur yn dweud bod perygl iddynt gwtogi niferoedd Swyddogion Cymorth Cymunedol yr heddlu.