Mae un o bwyllgorau’r Senedd wedi codi pryderon ynghylch y graddau y mae Senedd a Llywodraeth San Steffan yn ymyrryd â materion datganoledig.

Daw hyn ar ddiwedd tymor tymhestlog yn y Senedd pan y bu i Lywodraeth San Steffan fwrw ati â deddfwriaeth Brexit er bod AoSau Cymru wedi gwrthod â rhoi eu cydsyniad.

Yn benodol, mae’r pwyllgor wedi codi pryderon am Gonfensiwn Sewel.

Dan y confensiwn dyw Senedd y Deyrnas Unedig ddim fel arfer yn deddfu ar faterion sydd yn effeithio ar feysydd datganoledig heb gydsyniad y llywodraethau datganoledig.

Mae lle i ddadlau bod Brexit wedi difetha’ hynny’n llwyr – er enghraifft mae Deddf y Farchnad Fewnol yn ymyrryd ag amaeth yng Nghymru ond mi basiwyd heb gydsyniad Senedd y wlad hon.

Mae yna anghydweld ynghylch diffiniad y Confensiwn bellach, yn ôl y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, sy’n dweud y bydd rhaid mynd i’r afael â hynny.

“Mae’n hanfodol bod pob ochr yn dod i gyd-ddealltwriaeth ynghylch cymhwysiad Confensiwn Sewel [hynny yw, sut caiff ei ddefnyddio], fel y gall holl ganghennau gweithredol a deddfwriaethol y Deyrnas Unedig gytuno iddo,” meddai adroddiad y pwyllgor.

“Bydd methu â dod i ddealltwriaeth o’r fath, neu ddiwygio Confensiwn Sewel, yn golygu nad yw’n gweithio bellach [ac felly nad oes] ganddo fawr o werth ymarferol, a bydd hefyd yn esgor ar densiwn diangen rhwng llywodraethau’r Deyrnas Unedig.”

Llid y Cwnsler Cyffredinol

Bu’r pwyllgor yn casglu tystiolaeth cyn rhoi eu hadroddiad at ei gilydd, ac ymhlith y rheiny a fu’n rhoi tystiolaeth mae Jeremy Miles, Cwnsler Cyffredinol Llywodraeth Cymru.

Ni ddaliodd yntau yn ôl pan gafodd cyfle i rannu ei farn yntau am Gonfensiwn Sewel.

“Os oes gennych sefyllfa lle mae un ochr yn [diffinio] yr egwyddor, a bod [y diffiniad] yn cael ei … benderfynu ar ôl y digwyddiad, yna, dw i ddim yn credu ei fod yn gontrofersial dweud nad yw’r confensiwn yn gweithio,” meddai.

“Felly mae’n hollol annerbyniol mai dyma sut mae pethau yn mynd rhagddynt, a dw i ddim yn credu bod unrhyw un yn elwa os ydym yn esgus bod y confensiwn yma yn gweithio, pan mae’n amlwg nad yw’n gweithio.”

Gallwn gymryd mai Llywodraeth San Steffan yw’r “un ochr” dan sylw.

Mae Jeremy Miles wedi bod yn llafar iawn ei wrthwynebiad tuag at ddeddfwriaeth Brexit Llywodraeth San Steffan, a bu iddo danio gweithgarwch cyfreithiol yn erbyn y Llywodraeth.

 

Y Senedd yn gwrthod rhoi cydsyniad i Fil y Farchnad Fewnol

“Bydd datganoli yn farw os ddeith y Bil yma yn ddeddf” meddai un AoS yn ystod sesiwn danllyd

Deddf newydd yn “sarhad llwyr i’r setliad datganoli”

Iolo Jones

Fis diwetha’ cafodd Bil y Farchnad Fewnol ei basio yn Llundain er gwaetha’ gwrthwynebiad mawr gan seneddau Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon