Bydd Llywodraeth Cymru’n cyhoeddi fory (dydd Iau 1 Ebrill) y caiff tafarndai a bwytai awyr agored ailagor o 26 Ebrill ymlaen, os bydd cyfraddau coronafeirws yn parhau’n isel.

Bydd y Prif Weinidog, Mark Drakeford, yn cyhoeddi’r camau diweddaraf i leddfu’r cyfyngiadau mewn cynhadledd i’r wasg fory (dydd Iau 1 Ebrill).

Bydd Mr Drakeford yn nodi “cyfres o fesurau” i fynd â Chymru i rybudd lefel tri erbyn 17 Mai, “yn amodol ar amodau iechyd y cyhoedd yn parhau’n ffafriol”.

12 Ebrill

Cyn ei gynhadledd i’r wasg, cadarnhawyd y gallai manwerthu nad yw’n hanfodol ailagor, a hynny o 12 Ebrill.

Bydd myfyrwyr yng Nghymru hefyd yn dychwelyd i addysg wyneb yn wyneb ar y dyddiad hwnnw.

Bydd gwasanaethau cyswllt agos – fel gwasanaethau harddwch – yn gallu ailagor yr un diwrnod.

Bydd teithio rhwng Cymru a gweddill y Deyrnas Unedig ac Iwerddon yn cael ei ganiatáu o 12 Ebrill ymlaen hefyd.

26 Ebrill

Yn ogystal â thafarndai a bwytai awyr agored, bydd atyniadau awyr agored hefyd yn ailagor ar 26 Ebrill.

Mis Mai

Gellid hefyd ganiatáu i gampfeydd a chanolfannau hamdden agor ar gyfer hyfforddiant unigol tua “dechrau mis Mai”, ochr yn ochr â gweithgarwch awyr agored wedi’i drefnu ar gyfer hyd at 30 o bobl.