Mae grwpiau o hyd at 100 o bobl ifanc wedi bod yn creu helynt ger llwybr yr arfordir ym Mhorth Tywyn.
Daw hynny wedi i Heddlu Dyfed-Powys wasgaru grwpiau oedd wedi cyfarfod i yfed alcohol mewn coetir ac ar draeth oddi ar y llwybr – gyda nifer ohonynt wedi teithio i’r safle o lefydd eraill.
Roedd camau rhagweithiol eisoes wedi’u rhoi ar waith cyn gwyliau’r Pasg i ddelio gyda’r fflwcs o bobl fyddai’n ymweld â’r ardal, wedi i’r cyfyngiadau teithio gael eu llacio.
Ac mae gan yr Heddlu y grym i ofyn i bobl i adael yr ardal a’u hatal rhag dychwelyd am hyd at 48 awr.
“Camau rhagweithiol wedi’u cymryd”
“Rydym wedi derbyn nifer o alwadau gan drigolion Porth Tywyn sy’n pryderu ynglŷn ag ymddygiad grwpiau mawr o bobl ifanc yn y dref,” meddai Sargent Gemma Davies o Heddlu Dyfed-Powys.
“Mae camau rhagweithiol wedi’u cymryd, gyda chynlluniau wedi’u rhoi ar waith i ddelio â materion o’r fath y penwythnos diwethaf ac ar gyfer gŵyl y banc.
“Yn hanesyddol, mae pobl yn cwrdd yn yr ardal wedi arwain at ymddygiad gwrthgymdeithasol a difrod troseddol, felly rydym yn rhoi adnoddau ychwanegol ar waith i ganiatáu i swyddogion ymateb yn gyflym ac atal i faterion waethygu.”
Creu helynt
Dros y penwythnos, cafodd tua hanner cant o bobl ifanc yn eu harddegau eu gweld yn ymgynnull ger y coetir.
Cafodd y criw eu hel adref, wedi’i swyddogion ganfod tua 100 potel alcohol yn eu plith.
Yn ddiweddarach nos Lun (Mawrth 30) cafodd yr Heddlu eu galw i’r harbwr, ble’r roedd grŵp mawr wedi ymgynnull unwaith eto.
Y tro hwn, cafodd 100 o bobl ifanc eu hanfon adref gan adael tomen o sbwriel ac alcohol ar eu hôl.
Hefyd, achoswyd cryn ddirfod i dwyni tywod, ar ôl iddyn nhw gynna tân.
Apêl at rieni
Mewn ymdrech i leddfu pryderon lleol, mae’r Heddlu wedi bod yn gwirio trwyddedau siopau cyfagos gan eu hatgoffa o’r cyfreithiau sy’n ymwneud â gwerthu alcohol.
“Byddwn yn parhau i batrolio’r ardal ac ni fyddwn yn meddwl dwywaith cyn gwasgaru’r grwpiau, gan anfon y neges na fyddwn yn goddef ymddygiad gwrthgymdeithasol o’r math hwn,” meddai Sargent Gemma Davies.
“Hoffem apelio’n uniongyrchol at rieni i fod yn ymwybodol o ble mae eu plant, a beth maen nhw’n ei wneud.
“Mae’r ymddygiad hwn yn peri gofid i bobl sy’n byw ym Mhorth Tywyn, ac rydym yn eich annog i fod yn atebol am weithredoedd eich plant.
“Rydym yn deall bod y misoedd diwethaf wedi bod yn anodd, a bod plant eisiau gweld eu ffrindiau, ond gwnewch eich gorau i sicrhau eu bod yn glynu wrth reoliadau sydd ar waith er lles diogelwch pawb.”