Mi ddylai bod yn rhaid i ddeisebau ddenu mwy o lofnodion er mwyn medru cael eu hystyried gan Aelodau o’r Senedd, yn ôl adroddiad pwyllgor.

Ar hyn o bryd mae pob deiseb sydd yn derbyn 50 llofnod neu fwy (ac yn cael ei gyflwyno trwy sustem y Senedd) yn cael ei thrafod gan y Pwyllgor Deisebau.

Ac mae deisebau sy’n cael eu harwyddo gan 10,000 neu fwy o bobol yn cael eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd.

Mae’r Pwyllgor yn hapus â’r trothwy o 10,000 (ac yn agored i’r posibiliad o’i ostwng), ond mae’n teimlo bod y trothwy 50 yn rhy isel ac y dylai godi i 200 neu 250.

“Ein barn ni yw bod y trothwy presennol o 50 llofnod yn rhy isel gan arwain at rai deisebau yn cael eu cyfeirio at y Pwyllgor Deisebau er nad oes ganddynt gefnogaeth sylweddol,” meddai.

“Er ein bod yn credu y dylai’r broses ddeisebau barhau i fod yn agored ac yn hygyrch, rydym yn pryderu bod y trothwy isel wedi cael effaith ar ein gallu i gynnal gwaith craffu manwl ar gynifer o faterion ag y byddem wedi dymuno eu gwneud.”

Patrwm dros dro?

Mae’r pwyllgor yn dweud bod “nifer y deisebau sy’n dod i law wedi cynyddu’n sylweddol yn ystod y 12 mis diwethaf”, ac mae’n derbyn y gallai hyn fod yn newid “dros dro”.

Er hynny, mae’n debyg bod nifer y deisebau a anfonir i’r Senedd eisoes ar gynnydd cyn y pandemig, a chyn i’r Senedd uwchraddio ei gwefan.