Heddiw (Ebrill 1) mae Cyngor Sir Caerdydd a’r Mudiad Meithrin yn cyhoeddi datblygiad cyffrous newydd, er mwyn dathlu hanner canmlwyddiant y Mudiad.

Yn dilyn ymgyrch gyhoeddus ddiweddar i wella wal castell Caerdydd penderfynwyd y dylid ychwanegu Doti, ci bach hoffus y Mudiad Meithrin.

Bydd Doti, sy’n ffrind i holl blant Cymru, yn ymuno ag anifeiliaid eiconig eraill sy’n addurno waliau Castell Caerdydd, un o atyniadau cadwraeth enwocaf y ddinas.

Mae gan y Mudiad Meithrin, a lansiwyd yn 1971, dros 1,000 o ddarpariaethau blynyddoedd cynnar ledled Cymru.

“Dathlu gwaith Mudiad Meithrin”

Wrth ddadorchuddio delw Doti yn ei chartref newydd ar y wal, meddai’r Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Sir Caerdydd:

“Pleser mawr yw ychwanegu delw Doti’r ci i’r wal o anifeiliaid sydd yn adnabyddus trwy Gymru a’r byd.

“Er fod hon yn wal sydd wedi ei rhestru, dwi’n siŵr y bydd pawb yn cytuno fod y fath ychwanegiad yn addas iawn o ystyried pwysigrwydd dathlu gwaith Mudiad Meithrin ar ei ben blwydd yn 50 oed”.

Ategodd Prif Weithredwr y Mudiad Meithrin, Dr Gwenllian Lansdown Davies:

“Rydym yn dal i orfod pinsio’n hunain fod Cyngor Caerdydd wedi ymateb i gais plant y brifddinas i godi delw o Doti (ein ci bach ni yn y Mudiad) ar wal castell sydd mor eiconig.

“Mae hi mewn cwmni da iawn rhwng y morlo a’r mochyn.”