Mae’r cecru etholiadol wedi dechrau wedi i nifer o bleidiau lansio eu hymgyrchoedd ar gyfer etholiadau’r Senedd ac amlinellu eu cynlluniau pe baen nhw’n cael eu hethol.
Bydd etholiadau Senedd Cymru’n cael eu cynnal ar Fai 6, ac mae’r cyfnod o ymgyrchu etholiadol wedi dechrau.
Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi amlinellu eu hamserlen ar gyfer llacio cyfyngiadau’r cyfnod clo petaen nhw yn dod i rym, gan ddweud eu bod yn gamau “gofalus, ond di-droi’n-ôl”.
Wrth ymateb i’w cynllun, dywed llefarydd ar ran Plaid Cymru fod popeth ynghylch record y Ceidwadwyr yn rheoli’r economi a’r Gwasanaeth Iechyd yn dangos eu bod nhw’n “gwbl anghymwys i reoli Cymru”.
“Y Ceidwadwyr wnaeth wrthod ymestyn y cynllun ffyrlo i bobol Cymru – cynllun a wnaeth achub miloedd o fywydau,” meddai llefarydd ar ran Plaid Cymru.
“Y Ceidwadwyr wnaeth lanast o’r system profi ac olrhain – gan beryglu iechyd y cyhoedd.
“A’r Ceidwadwyr wnaeth roi cytundebau drud y llywodraeth i’w ffrindiau cyfoethog tra bod busnesau Cymru’n cael trafferth ymdopi.
“Mae’r syniad fod gan y Ceidwadwyr unrhyw fath o hygrededd wrth ystyried diogelu bywydau a bywoliaethau yn chwerthinllyd.
“Mae popeth am record y Ceidwadwyr yn rheoli’r economi a’r GIG yn dangos eu bod nhw’n gwbl anghymwys i reoli Cymru, ac amddiffyn ein pobol,” ychwanega Plaid Cymru.
“Dim ond Llywodraeth Plaid Cymru fydd yn rhoi buddion pobol Cymru gyntaf – gan ein harwain ni allan o’r pandemig, a rhoi’r economi a’r GIG ar lwybr adferiad gyda Bargen Werdd Cymru a fydd yn creu 60,000 o swyddi, ac yn hyfforddi a recriwtio 6,000 o weithwyr newydd i’r GIG.”
“Perygl i’r Ceidwadwyr gwtogi niferoedd” y Swyddogion Cymorth Cymunedol
Mae’r Blaid Lafur a’r prif weinidog Mark Drakeford wedi ymrwymo i sicrhau bod mwy o Swyddogion Cymorth Cymunedol gan yr heddlu, ac wedi dweud bod perygl i’r Ceidwadwyr gwtogi’r niferoedd yng Nghymru.
Mae’r Blaid Lafur yn dweud eu bod nhw wedi sicrhau bod 500 o Swyddogion Cymorth Cymunedol ar y strydoedd dros y degawd diwethaf, ac mae arian ar gyfer 100 yn rhagor ar y ffordd, yn ôl y blaid.
Mae’r Ceidwadwyr wedi cwtogi’r heddlu i’r lefel isaf mewn cenhedlaeth, a bydden nhw’n parhau i wneud toriadau petaen nhw’n ennill ym mis Mai, meddai’r Blaid Lafur.
Prif flaenoriaeth y Blaid Lafur yw cadw pobol, teuluoedd, a chymunedau yn sâff, yn ôl y Blaid.
“Mae a wnelo’r etholiad yma ag ymddiriedaeth ac uchelgais,” meddai Mark Drakeford, arweinydd y Blaid Lafur.
“Ymddiriedaeth yn sgil popeth rydym ni wedi ei wneud gyda’n gilydd i gadw Cymru’n ddiogel.
“Ac uchelgais oherwydd tu hwnt i’r coronafeirws mae’r Blaid Lafur yn benderfynol o ailadeiladu’n cymunedau fel eu bod nhw’n llefydd cryf ar gyfer y dyfodol.
“Dyna lle mae’n haddewid i gael 600 Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu yn bwysig.
“Mae’r swyddogion wedi chwarae rhan mor bwysig yn ystod y pandemig,” esbonia.
“Rydym ni’n benderfynol o amddiffyn y 500 yr ydym ni wedi’u hariannu dros y degawd diwethaf wrth i’r Ceidwadwyr yn Llundain wneud toriadau ar ôl toriadau.
“Rydym am gynyddu’r niferoedd fel bod cymunedau ym mhob rhan o Gymru yn gwybod bod ganddynt gefnogaeth i ffynnu.”
Syniad “ffôl” dod yn Brif Weinidog a Gweinidog yr Economi
Daw cynlluniau’r Ceidwadwyr Cymreig ac addewidion y Blaid Lafur wrth i Adam Price, arweinydd Plaid Cymru, ddweud y byddai’n Brif Weinidog ac yn cymryd cyfrifoldeb dros yr Economi pe bai’r blaid yn ennill yr etholiad.
Ond yn ôl John Miller, ymgeisydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig yng Nghasnewydd, mae’r syniad yn “ffôl”.
“Dylid ei weld fel sarhad ar ei Weinidog Economaidd, Helen Mary Jones,” meddai John Miller.
“Mae rhywbeth mor bwysig ag economi Cymru yn haeddu Gweinidog llawn amser.
“Rhaid cael syniadau newydd ar gyfer yr economi Cymru, a dyna pam fod y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig eisiau rhoi adferiad gyntaf ac yn galw am gyngor adfer yr economi a fyddai’n cael ei gadeirio gan Weindiog yr Economi.
“Byddai’r cyngor yn cynnwys cynrychiolwyr o fusnesau ac academia er mwyn cynghori’r llywodraeth,” esbonia’r ymgeisydd.
“Nid yw hi byth yn syniad da cael un person yn rheoli a chadarnhau grym.”