Byddai Prif Weinidog Plaid Cymru yn cymryd “cyfrifoldeb personol” dros yr economi ar ôl yr etholiad, yn ôl y blaid.

Dywed Adam Price y bydd canlyniad yr etholiad yn “diffinio ffawd economaidd Cymru am genhedlaeth”.

Daeth ei sylwadau wrth nodi Bargen Werdd Plaid Cymru, sef cynllun i greu 60,000 o swyddi mewn sectorau carbon isel, yr economi sylfaenol, a gwasanaethau cyhoeddus hanfodol.

Byddai Plaid Cymru yn anelu at wneud y wlad yn wely prawf ar gyfer arloesi byd-eang ar newid yn yr hinsawdd fel rhan o’i tharged carbon net-sero erbyn 2050, yn ôl arweinydd y blaid.

“Mae argyfwng Covid wedi ein dysgu bod angen i ni adeiladu economi llawer mwy gwydn os ydym am amddiffyn swyddi a bywoliaethau yn y dyfodol,” meddai Adam Price, a fu’n gweithio am flynyddoedd ym maes datblygu economaidd cyn cael ei ethol i’r Senedd.

‘60,000 o swyddi’

“Dyna pam y byddai Plaid Cymru yn rhoi adferiad economaidd wrth galon ein rhaglen lywodraethu, gan weithredu Bargen Werdd Cymru, gan greu 60,000 o swyddi mewn diwydiannau carbon isel, yr economi sylfaenol a’n sectorau cyhoeddus hanfodol fel iechyd ac addysg,” meddai wedyn.

“Pe bawn yn cael fy ethol yn Brif Weinidog, byddwn yn cymryd cyfrifoldeb personol am yr economi – adlewyrchiad nid yn unig o faint yr her ond hefyd ymrwymiad Plaid Cymru i’w goresgyn.

“Rydyn ni eisiau cyflymu newid yn gyflym trwy roi cynaliadwyedd wrth galon yr economi – rhywbeth sydd wedi digwydd yn llawer rhy araf o dan Lafur.

“Gyda llywodraeth Plaid, byddai Cymru ar flaen y gad yn y chwyldro diwydiannol gwyrdd, gan ddod yn fan profi ar gyfer arloesi byd-eang ar newid yn yr hinsawdd a’n helpu i gyflawni targed carbon net sero erbyn 2035.

“Byddem yn tanio economi Cymru ar ôl Covid trwy fwrw ymlaen â phrosiectau seilwaith sydd â chynaliadwyedd a gwytnwch yn ganolog iddynt, megis sicrhau cysylltiad Gigabit ledled y wlad, tyfu perchnogaeth Gymreig ar y sector adnewyddadwy, ac ehangu a moderneiddio’r rhwydwaith reilffyrdd.

“Byddai miloedd o swyddi newydd hefyd yn cael eu creu yn ein gwasanaethau cyhoeddus hanfodol, byddai mwy o feddygon a nyrsys i gefnogi adferiad hanfodol Covid a byddai dull “lleol yn gyntaf” o gaffael yn rhoi hwb i’r economi sylfaenol.”

“Mae cymhwysedd economaidd a chreadigrwydd wedi bod yn brin o dan Lafur. Bydd yr etholiad hwn yn diffinio ffawd economaidd Cymru am genhedlaeth. Dim ond pleidlais i Plaid Cymru ar Fai 6ed fydd yn gwarantu llywodraeth sydd â chynllun i ffynnu.”