Mae timau achub wedi llwyddo i ryddhau llong cynhwysydd enfawr oedd yn sownd yng Nghamlas Suez ers bron i wythnos.

Gyda chymorth y llanw uchel, fe lwyddo nhw i ryddhau llong yr Ever Given sy’n cludo nwyddau.

Roedd y llong yn orlawn ac yn pwyso 220,000-tunnell.

Fe greoedd dagfa draffig enfawr gan ddal naw biliwn o ddoleri’r UD bob dydd mewn masnach fyd-eang a chadwyni cyflenwi sydd eisoes wedi eu heffeithio’n arw gan bandemig y coronafeirws.

Pentyrru

Bu o leiaf 367 o longau, sy’n cario popeth o olew crai i wartheg, wedi pentyrru ar y naill ben a’r llall i’r gamlas, yn aros i fynd heibio.

Amcangyfrifir y gallai gymryd mwy na 10 diwrnod i glirio’r llongau.

Yn y cyfamser, mae dwsinau o longau wedi dewis y llwybr arall o amgylch Affrica, gan ychwanegu tua phythefnos at deithiau a chostio cannoedd o filoedd o ddoleri mewn tanwydd a chostau eraill.

Llwyddwyd i symud tywod a mwd o waelod y llong oedd ar ei ffordd i Rotterdam.