Mae Plaid Cymru wedi lansio eu hymgyrch etholiadol heddiw (Chwefror 26), gydag addewid i “adeiladu economi newydd i bawb”.

Yn ôl yr arweinydd Adam Price, Plaid Cymru yw’r unig blaid sy’n cynnig rhaglen o lywodraeth gyda “deinameg economaidd a chyfiawnder cymdeithasol yn ganolog iddi”.

Ymhlith eu haddewidion, mae creu 60,000 o swyddi gwyrdd, hyfforddi a recriwtio 6,000 o staff rheng flaen newydd yn y Gwasanaeth Iechyd a thorri bil Treth y Cyngor i deuluoedd cyffredin.

Wrth siarad cyn lansio’r ymgyrch, dywedodd Adam Price mai “rhoi dyfodol Cymru yn nwylo Cymru” yw’r unig ffordd i “roi diwedd ar dlodi uchelgais o dan Lafur ac i rwystro bygythiad y Torïaid i dynnu Cymru oddi ar y map gwleidyddol.”

Blas o’r polisïau

Bydd rhai o bolisïau allweddol Plaid Cymru yn cynnwys:

  • Creu 50,000 o gartrefi cymdeithasol a fforddiadwy
  • Ysgogiad Economaidd Gwyrdd i greu 60,000 o swyddi
  • Ymestyn Prydau Ysgol Am Ddim i bob plentyn yn yr ysgol gynradd
  • Hyfforddi a recriwtio 1,000 o feddygon, 4,000 o nyrsys a 1,000 o weithwyr iechyd proffesiynol arall
  • Man gwyrdd o ansawdd da o fewn taith gerdded pum munud i bob cartref
  • Diwygio treth y cyngor a thorri’r bil i deuluoedd cyffredin

“Rhoi dyfodol Cymru yn nwylo Cymru”

Wrth siarad cyn lansiad ymgyrch Plaid Cymru, dywedodd Adam Price:

“Mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi amlygu’r gyd-ddibyniaeth rhwng ein heconomi a gwasanaethau cyhoeddus,” meddai,

“Bydd Llywodraeth nesaf Cymru yn wynebu her enfawr wrth fynd i’r afael â diweithdra, cefnogi busnesau, a chael ein hysgolion a’r gwasanaeth iechyd yn ôl ar y trywydd iawn.

“Plaid Cymru yw’r unig blaid sy’n cynnig rhaglen o lywodraeth gyda deinameg economaidd a chyfiawnder cymdeithasol yn ganolog iddi.

“Gyda pholisïau uchelgeisiol ond wedi’u costio’n llawn yn amrywio o greu 60,000 o swyddi gwyrdd i hyfforddi a recriwtio 6,000 o staff rheng flaen yn y gwasanaeth iechyd, a diwygio’r dreth gyngor er mwyn torri’r bil i deuluoedd cyffredin, bydd Plaid Cymru yn adeiladu economi newydd a fydd yn ffurfio sylfeini Cymru newydd ac annibynnol.

“Rhoi dyfodol Cymru yn nwylo Cymru yw’r unig ffordd i roi diwedd ar dlodi uchelgais o dan Lafur ac i rwystro bygythiad y Torïaid i dynnu ein gwlad oddi ar y map gwleidyddol.

“Ni all Cymru aros i Lafur ddod o hyd i ddewrder nac i’r Torïaid ddod o hyd i gydwybod – mae angen egni newydd a syniadau newydd arnom nawr.

“Dyna’n union y mae pleidlais i Blaid Cymru – pleidlais o blaid Cymru – yn ei gynnig ar Fai 6.”