Mae Llywydd y Comisiwn Ewropeaidd wedi rhybuddio AstraZeneca bod yn rhaid iddyn nhw barchu eu cytundebau i gyflenwi’r brechlyn i wledydd yr Undeb Ewropeaidd cyn allforio i wledydd eraill y byd.
Mae Ursula von der Leyen wedi annog gwledydd eraill i fod yn “dryloyw” ynglŷn â faint o frechlynnau sydd wedi cael eu hallforio. Ond nid oedd wedi cadarnhau a fyddai’r Undeb Ewropeaidd yn cyflwyno cyfyngiadau llymach ar allforion o’r brechlyn, yn dilyn ffrae am gyflenwadau gyda’r cwmni fferyllol.
Serch hynny mae hi wedi cydnabod bod angen cadw’r gadwyn gyflenwi yng ngwledydd eraill y byd er mwyn parhau i gynhyrchu’r brechlyn.
Mae’r Comisiwn Ewropeaidd wedi gosod rheoliadau llymach i leihau faint o gyflenwadau o’r brechlyn sy’n cael eu hallforio i wledydd eraill sy’n ymdopi’n well yn ystod y pandemig, wrth i wledydd yr UE wynebu trydedd don o achosion.
Serch hynny, mae rhai arweinwyr Ewropeaidd eraill yn optimistaidd y bydd y Deyrnas Unedig a’r UE yn datrys yr anghydfod am gyflenwadau yn fuan.
Hefyd, ddyddiau’n unig ar ôl i’r Prif Weinidog awgrymu mesurau llymach i atal amrywiolion o Covid-19 rhag cael eu trosglwyddo o Ewrop, mae’r Telegraph yn adrodd bod y Llywodraeth yn bwriadu cyflwyno cynllun profion torfol ar gyfer gyrwyr loriau sy’n cyrraedd y DU.
Tystysgrifau coronafeirws
Yn y cyfamser mae Boris Johnson yn ceisio lleddfu pryderon am y posibilrwydd o gyflwyno tystysgrifau coronafeirws.
Daw hyn ar ôl i dafarnwyr feirniadu ei awgrym y gallen nhw benderfynu gofyn i gwsmeriaid gyflwyno prawf eu bod nhw wedi cael y brechlyn cyn cael mynediad i’w tafarndai.
Gallwch ymateb ambell dafarnwr yng Nghymru i hynny isod.
“Mae ’na ddigon o drafferth hefo fake ID … be nesa’, fake Covid passports??”