Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw i fferm yn Llanfair Caereinion ym Mhowys neithiwr (Chwefror, 25) yn dilyn adroddiadau fod sied yn cynnwys miloedd o ieir ar dân.

Llwyddodd y swyddogion i atal y fflamau rhag lledu i ail sied gyfagos.

Roedd sawl injan dân yn bresennol a chafodd chwe phwmp eu defnyddio mewn ymdrech i gael y tân o dan reolaeth.

Er hynny, nid oedd modd achub un o’r siediau ac yn ôl adroddiadau, mae miloedd o ieir wedi marw o ganlyniad.