Mae’r corff sy’n cynrychioli meddygon Cymru yn galw am wario mwy ar wasanaethau iechyd meddwl a chael gwared ar “ansicrwydd incwm”, er mwyn gwell iechyd pobol fregus – sydd wedi gwaethygu, medden nhw, yn ystod y pandemig.

Mae’r Gymdeithas Feddygol Brydeinig (BMA) wedi cyhoeddi’r adroddiad Lliniaru effaith Covid-19 ar anghydraddoldebau iechyd sy’n galw ar holl lywodraethau Prydain I weithredu ar frys.

Ofn y meddygon yw y bydd iechyd teuluoedd oedd eisoes mewn tlodi yn gwaethygu wrth i bobol golli eu gwaith oherwydd y coronafeirws.

Maen nhw hefyd yn poeni am effaith cau ysgolion ar les ac iechyd meddwl plant bregus, a’r effaith anghymesur mae’r feirws wedi ei gael ar gymunedau BAME.

Rhondda Cynon Taf – “y gyfradd farwolaethau uchaf ym Mhrydain”

Yn eu hadroddiad mae’r Gymdeithas Feddygol yn pwyso ar y gwleidyddion i roi’r flaenoriaeth i daclo anghydraddoldebau iechyd yn sgîl covid, gwario mwy ar wasanaethau iechyd meddwl a sicrhau bod y Credyd Cynhwysol yn parhau ar y lefel presennol.

Hefyd maen nhw yn galw am ariannu rhaglenni – sydd ddim yn rhai addysgol – i helpu plant bregus.

“Mae’r pandemig wedi amlygu ymhellach yr anawsterau presennol y mae llawer o bobl yn eu hwynebu oherwydd eu hamgylchiadau byw, ac mae Covid-19 wedi effeithio’n anghymesur arnynt,” meddai Dr David Bailey, Cadeirydd y Gymdeithas Feddygol Brydeinig yng Nghymru, yn Feddyg Teulu yng Nghaerffili.

“Nid oes ond rhaid i ni edrych ar y ffaith bod gan Rondda Cynon Taf y gyfradd farwolaethau uchaf ym Mhrydain, ac mae hefyd yn un o ddim ond dwy ardal yng Nghymru sydd â mwy na 30 o bobl yn ddi-waith ac yn hawlio budd-daliadau, am bob swydd wag.”