Mae arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn pwyso ar y Blaid Lafur i ddweud yn glir lle maen hi’n sefyll ar annibyniaeth cyn etholiadau’r Senedd ym mis Mai.
Awgryma gwaith ymchwil bod mwyafrif o gefnogwyr Llafur bellach yn cefnogi annibyniaeth i Gymru.
Llafur yn cynhesu at annibyniaeth?
Mae’r Blaid Lafur wedi dewis tri ymgeisydd sydd o blaid annibyniaeth i sefyll yn etholiad Senedd Cymru, sef Cian Ireland yn Nwyfor Meirionnydd, Dylan Lewis-Rowlands yng Ngheredigion, a Ben Gwalchmai ar restr ranbarthol y Canolbarth a’r Gorllewin.
Wrth ddyfynnu geiriau’r AoS Ceidwadol David Melding, dywedodd Mark Drakeford yn ddiweddar bod rhaid “cydnabod fod yr Undeb, fel y mae hi, wedi dod i ben”.
“Rhaid i ni ddangos i bobol ein bod ni’n medru ail-lunio’r Deyrnas Unedig mewn ffordd sydd yn cydnabod mai cymdeithas wirfoddol o bedair cenedl yw hi,” meddai’r Prif Weinidog yn ddiweddar wrth amlinellu cynlluniau ar gyfer ymreolaeth (‘home-rule’).
“Oddi fewn i’r gymdeithas yna mae sofraniaeth yn cael ei chronni at yr un diben, ac er budd pawb.”
Erbyn hyn mae gan YesCymru 18,000 o aelodau, ac yn ddiweddar dywedodd Dafydd Wigley, cyn-arweinydd Plaid Cymru, “nad oes syndod” bod mwy o bobol yn cynhesu at annibyniaeth, gyda nifer o gefnogwyr Llafur yn eu plith.
Mae holl ymgeiswyr y Ceidwadwyr Cymreig wedi ymrwymo i gefnogi’r Undeb cyn yr etholiad Senedd Cymru, tra bod Plaid Cymru wedi addo cynnal refferendwm ar annibyniaeth erbyn 2025 petae nhw’n dod i rym.
Eisoes, mae Plaid Cymru wedi dweud bod rhaid i’r Blaid Lafur ddweud ei barn ar annibyniaeth, gan ofyn “pa rôl mae’r Blaid Lafur yn ei chwarae yn hyn o beth?”
Yn ôl y Ceidwadwyr Cymreig, maen nhw am ganolbwyntio’n llwyr ar adfer yr economi, ac nid ar “greu llanast cyfansoddiadol”.
“Lle mae’r Blaid Lafur yn sefyll?”
Mae Andrew RT Davies, arweinwyr y Ceidwadwyr Cymreig, wedi galw ar Mark Drakeford i ddweud yn glir lle mae’r blaid yn sefyll ar annibyniaeth.
“Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi dweud yn glir beth yw ein barn ni ar yr Undeb.
“Rydym ni’n credu bod ein hadferiad economaidd yn ddibynnol ar aros yn rhan o’r Deyrnas Unedig, a byddwn yn canolbwyntio ar sicrhau bod teuluoedd, gweithwyr, a busnesau yn gallu adfer wedi’r pandemig.
“Ond lle mae’r Blaid Lafur yn sefyll? Mae’n amser iddyn nhw fod yn onest â phobol Cymru cyn yr etholiad,” pwysleisia Andrew RT Davies.
“Mae’n debyg mai trefi a chymunedau Cymru fydd wedi’u heffeithio waethaf gan y pandemig, ac nid nawr yw’r amser i siarad am wahanu pan ddylai bawb ganolbwyntio ar ailadeiladu economi Cymru.
“Naill rydym ni’n cael adferiad cryf drwy aros mewn Undeb gref, neu ddawns beryglus gydag ymwahanu a fyddai’n gallu achosi llanast economaidd a chyfansoddiadol – ni allwn gael y ddau.”
Ymateb y garfan Lafur sydd eisiau Cymru annibynnol
Yn ymateb i’r alwad gan Andrew RT Davies, dywedodd llefarydd ar ran Labour for Indy Wales:
“Mae barn y Blaid Lafur yng Nghymru ar y mater yn glir.
“Nid yw’r blaid yn cefnogi annibyniaeth i Gymru.
“Yn lle, maen nhw’n ymgyrchu dros ddiwygio’r cyfansoddiad er mwyn rhoi Cymru mewn safle cyfartal i weddill gwledydd y Deyrnas Unedig.
“Mae yna ymgeiswyr Llafur sydd o blaid annibyniaeth, ac mae yna ymgeiswyr Ceidwadol sydd o blaid diddymu’r Senedd.
“Er hynny, mae pob ymgeisydd Llafur yn ceisio gwella democratiaeth yng Nghymru yn hytrach na’i ddymchwel.“
Os yw’r Ceidwadwyr am weld dryswch yn nyfodol Cymru, maen nhw angen drych yn hytrach na phwyntio bysedd.”
Ymateb Llafur Cymru
Dywedodd llefarydd Llafur Cymru:
“Mae’n hollol ragrithiol bod y Torïaid yn honni eu bod yn cefnogi’r Undeb, ond nhw yw’r rheswm pam mae ei chwalu bellach yn berygl gwirioneddol a presennol.
“Llafur Cymru yw’r blaid datganoli yng Nghymru ac sy’n credu bod y Deyrnas Unedig yn gymdeithas wirfoddol o bedair gwlad, lle dylid lledaenu pŵer ac nid ei ganoli, lle mae penderfyniadau’n cael eu gwneud mor agos at y bobl â phosib.
“Credwn y dylai’r Undeb gyfrannu at les pobl ledled y DU drwy gyfuno risg ac ailddosbarthu adnoddau ariannol. Mae’n bryd i gonfensiwn cyfansoddiadol ddatblygu cytundeb newydd i’r Deyrnas Unedig.”