Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi amlinellu eu hamserlen ar gyfer gadael y cyfnod clo ar ôl Etholiad y Senedd ym mis Mai.
Hyd at Fai 6, diwrnod yr etholiad, y Blaid Lafur sy’n gyfrifol am gyfyngiadau’r coronafeirws yng Nghymru.
Er hynny, mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi amlinellu eu cynlluniau petaen nhw’n ennill yr etholiad, gan gymryd bod y sefyllfa iechyd cyhoeddus yn parhau’n gadarnhaol, a bod y rhaglen frechu yn mynd yn ei blaen ar yr un cyflymder â nawr.
Eisoes, mae Andrew RT Davies wedi galw am weithredu ar y cyd â gweddill gwledydd Prydain.
Mae disgwyl i’r llywodraeth bresennol adolygu’r sefyllfa ddwywaith cyn yr etholiad, unwaith ddydd Iau yma (Ebrill 1), ac eto ar Ebrill 22.
Ar Ebrill 22, mae’n debyg y bydden nhw’n ystyried canolfannau chwaraeon, atyniadau awyr agored, lletygarwch tu allan, priodasau, canolfannau cymunedol, a gweithgareddau wedi’u trefnu (ar gyfer 30 o bobol tu allan, a 15 o bobol tu mewn).
Yn ôl y Ceidwadwyr Cymreig, bydden nhw’n gwahardd pobol rhag hedfan i mewn ac allan o faes awyr Caerdydd, er mwyn gwarchod rhag amrywiolion newydd o’r coronafeirws nes bod y dystiolaeth yn dangos ei bod teithio’n sâff.
Byddai’r blaid hefyd yn sicrhau bod profion coronafeirws sydyn ar gael i fusnesau sydd â mwy na deg gweithiwr ac sydd yn methu cynnig profion yn y gweithle.
Amserlen y Ceidwadwyr Cymreig
Mae amserlen y Ceidwadwyr Cymreig yn amlinellu tri cham y bydden nhw’n eu cymryd ar ôl yr etholiad, wedi asesu’r pedwar pwynt canlynol:
- bod y rhaglen frechu yn parhau’n llwyddiannus.
- bod y dystiolaeth yn dangos fod y brechlynnau yn lleihau marwolaethau a derbyniadau i ysbytai ymysg pobol sydd wedi’u brechu.
- nad ydi nifer yr achosion yn bygwth cynyddu’r nifer o dderbyniadau i ysbytai gan roi pwysau ar y GIG.
- nad ydi’r asesiad o’r risg yn newid yn sgil pryderon newydd.
Cam 1
- sicrhau bod yr opsiynau oedd yn cael eu hadolygu gan Lywodraeth Cymru ym mis Ebrill yn cael eu gweithredu.
- sicrhau cefnogaeth ariannol i fusnesau manwerthu, lletygarwch, hamdden a thwristiaeth a oedd ar gau yn ystod y cyfnod etholiadol.
Cam 2, i’w cyflwyno ddim cynt na Mai 17:
- codi cyfyngiadau cymdeithasol tu allan – cwrdd â mwy na 30 o bobol yn parhau i fod yn anghyfreithlon.
- perfformiadau awyr agored megis sinemâu tu allan yn cael ailagor. Dan do, bydd y rheol chwe pherson o ddwy aelwyd yn dal mewn grym.
- lletygarwch dan do, lleoliadau tu mewn megis sinemâu, gweddill y diwydiant gwyliau, a chwaraeon grŵp tu mewn a dosbarthiadau ffitrwydd yn ailddechrau.
- digwyddiadau chwaraeon neu berfformiadau mwy mewn lleoliadau dan do sy’n dal hyd at 1,000 o bobol neu yn hanner llawn (pa bynnag un yw’r lleiaf) yn ailagor. Yn ogystal, bydd lleoliadau tu allan sy’n dal 4,000 person neu yn hanner llawn yn cael ailagor.
- bydd hyd at 30 person yn cael mynd i briodasau, derbyniadau, te angladd, ac angladdau. Bydd bar mitzvahs a bedyddion yn cael mynd eu blaen.
Cam 3, i’w cyflwyno ddim cynt na Mehefin 21:
- gobeithio y bydd posib codi’r holl gyfyngiadau ar gadw pellter cymdeithasol.
- gobeithio codi pob cyfyngiad ar ddigwyddiadau a pherfformiadau mawr.
- bydd hyn yn llywio’r penderfyniad ynghylch codi’r holl gyfyngiadau ar briodasau a digwyddiadau tebyg.
Cynllun gofalus, ond di-droi’n-ôl
“Mae teuluoedd, gweithwyr, a busnesau yn ymbilio am eglurdeb ynghylch yr hyn sydd o’u blaenau,” meddai Andrew RT Davies.
“Mae’r stori wych am y rhaglen frechu Brydeinig a Chymreig yn caniatáu i ni ddechrau dilyn llwybr gofalus i fynd yn ôl at ein rhyddid wrth i ni wneud popeth o fewn ein gallu i ddiogelu pobol rhag Covid.
“Yn ystod yr etholiad yma mae’n hanfodol fod pleidiau yn glir gyda’r cyhoedd ynghylch eu cynlluniau i symud yr economi a chymdeithas yn eu blaenau.
“Bydd rhai pobol eisiau i ni fynd yn gynt, eraill yn arafach, ond mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn credu y bydd y cynllun gofalus, ond di-droi’n-ôl, yma yn adfer ein rhyddid mewn ffordd sâff a hawdd i’w drin.”