Bydd Mark Drakefrod yn cyhoeddi’r camau nesaf o lacio cyfyngiadau’r cyfnod clo yng Nghymru ddydd Iau (Ebrill 1) ac yn rhoi mwy o sicrwydd i’r sector lletygarwch.

Wrth ymddangos ar raglen Andrew Marr ar y BBC dros y penwythnos, dywedodd Prif Weinidog Cymru ei fod yn disgwyl i’r diwydiant lletygarwch ailagor yn yr awyr agored “erbyn diwedd mis nesaf.”

Ychwanegodd y bydd yr adolygiad diweddaraf o’r cyfyngiadau yn darparu “sicrwydd” i’r sector lletygarwch yng Nghymru.

Ailagor lletygarwch ‘erbyn diwedd mis nesaf’ 

Mae Mark Drakeford yn disgwyl i’r diwydiant lletygarwch ailagor yn yr awyr agored erbyn diwedd mis Ebrill.

“Rydym yn gwybod fod cyfarfod dan do bob amser yn fwy peryglus, ac mae’n debygol y bydd rhaid aros am hynny tan fis Mai,” meddai Prif Weinidog Cymru.

Mae’n dweud y bydd yn cyhoeddi’r cyfyngiadau diweddaraf ddydd Iau (Ebrill 1), er mwyn darparu “sicrwydd” i’r diwydiant lletygarwch a hynny ar gyfer mis Ebrill a dechrau mis Mai.

“Mae hwn yn amser ansicr iawn, rydyn ni’n astudio’r ffigurau yng Nghymru bob dydd,” meddai.

“Ar hyn o bryd, mae pethau’n symud i’r cyfeiriad cywir, ond rydym yn gwybod pa mor gyflym all y feirws yma newid.

“Dw i ddim yn barod i roi sicrwydd ffals i bobol yn rhy bell i’r dyfodol.” 

“Chwarae gemau gwleidyddol”

Mewn ymateb i’w sylwadau, dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies, bod angen i Lywodraeth Lafur Cymru ddarparu eglurder ar y mater.

“Mae Llafur wedi bod dros y siop i gyd pan ddaw i’r mater o ddarparu ffordd allan o’r cyfyngiadau yng Nghymru,” meddai Andrew RT Davies.

Dywedodd bod angen i Lafur “roi’r gorau i chwarae gemau gwleidyddol a chanolbwyntio ar yr hyn sydd orau i deuluoedd, gweithwyr a busnesau yng Nghymru.”

“Rydym wedi bod yn galw am lwybr clir allan o’r cyfyngiadau dros y mis diwethaf gan fod Llafur wedi bod yn chwarae gyda bywydau a bywoliaeth pobl ac nid yw’n ddigon da.

“Bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn dod â’r gemau gwleidyddol i ben ac yn rhoi map ffordd fanwl allan o’r cyfyngiadau symud i deuluoedd, gweithwyr a busnesau Cymru.”

“Mwy o dryloywder”

Mae Plaid Cymru eisoes wedi cyhuddo Llywodraeth Lafur Cymru o drin busnesau gyda “dirmyg” drwy beidio â darparu digon o gefnogaeth iddyn nhw na llwybr clir allan o’r cyfnod clo.

Mae Adam Price hefyd yn dweud bod angen mwy o gymorth ariannol ar gyfer busnesau lletygarwch a hamdden yng Nghymru, gan awgrymu y dylen nhw gael grantiau i’w helpu gyda’r costau o ail-agor.

“Mae’r cydbwysedd rhwng rhoi gobaith a chodi disgwyliadau afrealistig yn llinell anodd ei droedio,” meddai Adam Price.

“Ond yr hyn mae busnesau Cymru, yn enwedig y sector lletygarwch, yn ei wynebu ar hyn o bryd yw gêm o ddyfalu gyda chynlluniau annelwig, a mwy o rwystr na llwybr clir [allan o’r cyfyngiadau].

Mark Drakeford yn amddiffyn cyfnodau clo Cymru

Prif weinidog Cymru’n dweud ei fod yn disgwyl i’r cyfyngiadau fod mewn grym tan ddiwedd y flwyddyn
Adam Price

Plaid Cymru: Llywodraeth Cymru yn trin busnesau gyda “dirmyg”

Y Llywodraeth ddim yn rhoi digon o gefnogaeth i fusnesau annibynnol, meddai Adam Price