Yn yr Unol Daleithiau, mae disgwyl i’r achos llys ddechrau yn erbyn cyn-swyddog yr heddlu o Minneapolis sydd wedi’i gyhuddo mewn cysylltiad â marwolaeth y dyn du, George Floyd.
Roedd fideo yn dangos Derek Chauvin yn pwyso ei ben-glin ar wddw George Floyd wedi arwain at brotestiadau ar draws yr Unol Daleithiau a thu hwnt.
Mae disgwyl i’r erlyniad ddangos y fideo i’r rheithgor ar ddechrau’r achos llys.
Bu farw George Floyd ar ôl i Derek Chauvin bwyso ar ei wddw am tua naw munud, a hynny er i George Floyd ddweud nad oedd yn gallu anadlu.
Mae Derek Chauvin wedi’i gyhuddo o lofruddiaeth anfwriadol, llofruddiaeth a dyn laddiad.
Mae disgwyl i’r achos barhau am tua phedair wythnos yn y llys yn Minneapolis lle mae mesurau diogelwch llym mewn lle. Mae arweinwyr y ddinas yn benderfynol o osgoi’r protestiadau a’r terfysgoedd a ddigwyddodd o ganlyniad i farwolaeth George Floyd.
Y prif gwestiynau yn ystod yr achos fydd ceisio darganfod a oedd Derek Chauvin wedi achosi marwolaeth George Floyd ac a oedd ei weithredoedd yn rhesymol.
Fe gymerodd bythefnos i ddewis y rheithgor, a gafodd eu holi am eu barn am yr heddlu, materion yn ymwneud a chyfiawnder hiliol, a chyhoeddusrwydd cyn yr achos.