Fe fydd teuluoedd a ffrindiau yn gallu cwrdd unwaith eto a chwaraeon tîm yn ail-ddechrau wrth i’r cyfyngiadau yn Lloegr gael eu llacio.

Fe fydd grwpiau o hyd at chwech o bobl o ddwy aelwyd yn gallu cymdeithasu mewn parciau a gerddi unwaith eto, tra bod cyfleusterau chwaraeon tu allan yn ail-agor, wedi i’r gorchymyn aros gartref ddod i ben ddydd Llun (Mawrth 29).

Serch hynny mae’r Prif Weinidog Boris Johnson wedi annog pobl i barhau’n wyliadwrus, gydag achosion yn cynyddu ar draws Ewrop ac amrywiolion newydd o’r firws yn dod i’r amlwg.

“Er gwaetha’r llacio heddiw, dylai pawb barhau i gadw at y rheolau,” meddai Boris Johnson gan bwysleisio’r angen i wisgo mygydau, golchi dwylo, cadw pellter oddi wrth eraill a chael y brechlyn pan maen nhw’n cael cais i wneud hynny.

Mae disgwyl i ymgyrch gael ei lansio yn rhybuddio am y peryglon o ddod ynghyd y tu ôl i ddrysau caeedig.

Mae llacio’r cyfyngiadau yn golygu y bydd caeau pêl-droed a chriced, tenis a phêl fas, pyllau nofio tu allan, cyrsiau golff a chlybiau hwylio yn cael ail-agor wedi misoedd o fod ynghau.

Cafodd y cyfyngiadau eu llacio wrth i ffigurau swyddogol ddangos bod mwy na 30 miliwn o bobl yn y Deyrnas Unedig bellach wedi cael eu dos cyntaf o’r brechlyn, sef tua 57% o holl oedolion y DU.

Mae’r Llywodraeth yn parhau i annog pobl i weithio gartref lle mae hynny’n bosib.

Y cam nesaf tuag at lacio’r cyfyngiadau yn Lloegr fydd Ebrill 12 pan mae disgwyl i siopau sydd ddim yn gwerthu nwyddau hanfodol ail-agor a busnesau lletygarwch y tu allan, gan gynnwys tafarndai a bwytai.