Mae Plaid Cymru’n dweud y bydden nhw’n neilltuo £500m ar gyfer cymunedau sydd wedi cael eu heffeithio gan lifogydd pe baen nhw’n dod i rym ar ôl etholiadau’r Senedd fis Mai.
Mae Heledd Fychan, cynghorydd tref Pontypridd sy’n sefyll fel ymgeisydd dros Blaid Cymru ar gyfer y Senedd, wedi beirniadu Llafur am wrthwynebu ymchwiliad annibynnol i achos y llifogydd yn y Cymoedd, gan ddweud y byddai ei phlaid yn mynd i’r afael â’r sefyllfa.
Yn ôl Leanne Wood, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd yn etholaeth y Rhondda, mae llifogydd wedi dinistrio cartrefi yn yr ardal honno ac ym Mhontypridd, yn ogystal ag ardaloedd eraill fel Llanrwst a Chaerffili.
“Mae stormydd mawr dros y blynyddoedd diwethaf wedi dinistrio cartrefi mewn cymunedau ledled y wlad,” meddai.
“Rydym oll wedi cael ein cyffwrdd gan straeon torcalonnus trigolion yn lleisio’u pryderon am fynd i gysgu yn y nos pan fo glaw trwm rhag ofn bod eu cartrefi’n cael eu difrodi eto.
“Rhaid i hyn ddod i ben.”
Rheoli llifogydd
Mae ei sylwadau wedi cael eu hategu gan Heledd Fychan, sy’n galw am ymchwiliad llawn a thrylwyr.
“Mae hefyd angen canolbwyntio mwy ar reoli llifogydd naturiol, gan ddefnyddio technegau megis adfer tir mawn a phlannu coetir newydd i reoli dargadwad dŵr ar dir uchel,” meddai.
“Dim ond cynllun radical ac ystyrlon megis yr un sy’n cael ei gynnig gan Blaid Cymru fydd yn rhoi sicrwydd gwirioneddol i’r cymunedau sydd wedi cael eu gadael ar ôl gan Lafur.
“Byddem hefyd yn gweithredu lle mae Llafur wedi methu, drwy gynnal ymchwiliad cyhoeddus llawn i’r llifogydd eang a ddigwyddodd yn 2020 ledled Cymru a gweithredu ar sail ei argymhellion i roi’r atebion i drigolion maen nhw’n eu haeddu.”