Mae Mark Drakeford wedi amddiffyn ei benderfyniadau ynghylch cyflwyno’r cyfnodau clo yng Nghymru, gan ddweud ei fod yn disgwyl i’r cyfyngiadau fod mewn grym tan ddiwedd y flwyddyn.
Wrth ymddangos ar raglen Andrew Marr ar y BBC, dywedodd prif weinidog Cymru fod ei lywodraeth wedi cyflwyno’r cyfnodau clo “yn gynt ac yn ddyfnach”.
Ond mae’n rhybuddio y gall fod disgwyl i bobol barhau i wisgo mygydau, golchi dwylo’n drylwyr a chadw pellter oddi wrth ei gilydd y tu hwnt i ddiwedd y flwyddyn.
‘Nid dyna fy neges i bobol yma yng Nghymru’
“Mae’r syniad ein bod ni, gydag un cyfyngiad, yn rhydd a bod y coronafeirws yn rhywbeth sydd drosodd, nid dyna fy neges i bobol yma yng Nghymru,” meddai Mark Drakeford.
“Dw i’n credu, pan edrychwn ni’n ôl reit i’r dechrau’n deg, pe baen ni’n gwybod bryd hynny yr hyn rydyn ni’n ei wybod nawr am y cyflymdra y gall y feirws yma ledu, y bydden ni wedi cymryd rhai camau’n gynt nag y gwnaethon ni.
“Dw i’n credu y byddai hynny wedi bod yn wir ledled y Deyrnas Unedig.
“Ar y cyfan, rydyn ni wedi mynd i mewn iddyn nhw’n gynt ac wedi mynd iddyn nhw’n ddyfnach.”
Pasport brechu
Wrth drafod y syniad o gyflwyno pasport brechu er mwyn i bobol gael teithio, dywedodd fod yna “wobrau i’w hennill” a’i fod yn barod i ystyried eu cyflwyno ar y cyd â gwledydd eraill Prydain.
Dywedodd ei fod e wedi trafod y mater â Michael Gove, gweinidog yn Swyddfa Gabinet Llywodraeth Prydain, a phrif weinidogion yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Ond mae’n rhybuddio y byddai’n rhaid i’r cynllun fod yn “deg a dibynadwy”.
“Dw i’n credu bod yna wobrau i’w hennill yn sicr drwy dystysgrifo brechlynnau domestig, ond mae yna heriau ymarferol a moesegol mawr i’w hwynebu hefyd,” meddai.
“Beth am y rheiny sy’n methu cael eu brechu am nad yw eu cyflyrau iechyd yn galluogi hynny i ddigwydd?
“Os yw’n system hunandystysgrifo, yna pa mor ddibynadwy ydyw y bydd rhywun yn dangos tystysgrif?”
Ailagor lletygarwch ‘erbyn diwedd mis nesaf’
Yn y cyfamser, mae’n dweud ei fod yn disgwyl i’r diwydiant lletygarwch ailagor yn yr awyr agored erbyn diwedd mis nesaf.
“Rydym yn gwybod fod cyfarfod dan do bob amser yn fwy peryglus, ac mae’n debygol y bydd rhaid aros am hynny tan fis Mai,” meddai.
Mae’n dweud y bydd yn cyhoeddi’r cyfyngiadau diweddaraf ddydd Iau (Ebrill 1), a hynny ar gyfer mis Ebrill a dechrau mis Mai.
“Mae hwn yn amser ansicr iawn, rydyn ni’n astudio’r ffigurau yng Nghymru bob dydd,” meddai.
“Ar hyn o bryd, mae pethau’n symud i’r cyfeiriad cywir, ond rydym yn gwybod pa mor gyflym all y feirws yma newid.
“Dw i ddim yn barod i roi sicrwydd ffals i bobol yn rhy bell i’r dyfodol.”
Ansicrwydd arall sy’n parhau yw ai hwn fydd y cyfnod clo olaf yng Nghymru.
“Rwy’n ofni nad ydw i’n meddwl y byddai unrhyw un cyfrifol yn fy sefyllfa i’n gallu gwneud hynny’n fuan,” meddai am y posibilrwydd o gyhoeddi mai hwn fyddai’r cyfnod clo olaf.
“Rydym yn gweld beth sy’n digwydd ar gyfandir Ewrop, rydym yn gwybod am yr amrywiolion newydd sy’n cael eu darganfod o amgylch y byd.
“Mae job o waith sydd angen ei gwneud o hyd i sicrhau bod y coronafeirws wir yn y drych ôl.”