Mae Mark Drakeford wedi awgrymu na fyddai’n barod i ystyried refferendwm annibyniaeth i Gymru fel rhan o glymblaid yn y Senedd.
Roedd yn ymateb i gwestiwn ar raglen Andrew Marr ar y BBC am rai o’r ymgeiswyr Llafur ar gyfer etholiadau’r Senedd sydd o blaid annibyniaeth i Gymru ac a fyddai’n fodlon derbyn mai’r pris am glymbleidio fyddai ildio i’r dymuniad am refferendwm.
“Dw i wedi dweud erioed, pe bai plaid sy’n cynnig y fath refferendwm yn ennill etholiad, yna wrth gwrs y dylid cynnal y fath refferendwm,” meddai.
“Ond os na allwch chi ennill etholiad gyda’r fath gynnig, yna dw i ddim yn meddwl bod gyda chi fandad democrataidd i wneud hynny.”
Yr Undeb
Unwaith eto, fe ategodd ei sylwadau ei fod e o blaid y Deyrnas Unedig a rhan Cymru yn yr Undeb.
“Dw i’n credu yn y Deyrnas Unedig, a dw i’n credu ei bod o fudd i ddyfodol Cymru ein bod ni’n cymryd rhan mewn Deyrnas Unedig lwyddiannus, a bod y Deyrnas Unedig yn well o gael Cymru’n rhan ohoni,” meddai wrth egluro’i safbwynt.
Ond mae’n dweud bod nifer o ffactorau sydd wedi arwain pobol i gredu mai annibyniaeth yw’r ateb ar gyfer dyfodol y wlad.
“Mae’r profiad coronafeirws ar y naill law a llywodraeth Johnson ar y llaw arall, heb amheuaeth, wedi gwneud i nifer o bobol yng Nghymru bendroni a fydden ni’n well mewn sefyllfa o bellter.
“Unwaith rydych chi’n cael sgyrsiau â phobol ac yn gofyn iddyn nhw beth maen nhw’n ei olygu wrth annibyniaeth, dw i’n credu mai’r hyn maen nhw’n ei ddisgrifio yw’r hyn rydyn ninnau’n ei ddisgrifio yn y Blaid Lafur.”
Pôl piniwn
Cafodd ei holi am bôl piniwn diweddar gan ITV sy’n dangos bod 39% o blaid annibyniaeth i Gymru erbyn hyn, ond fe wfftiodd mai “gwaddol Mark Drakeford yw bod yn fydwraig ar gyfer Plaid Cymru ac annibyniaeth i Gymru”.
“Mae’r un pôl wnaethoch chi ei ddyfynnu’n dangos cefnogaeth i annibyniaeth ar 14%,” meddai.
“Dw i’n credu bod hynny’n adlewyrchiad mwy cywir o le mae annibyniaeth ym meddyliau’r Cymry.
“Fy uchelgais wrth arwain Cymru yw cael datganoli grymus i Gymru gyda’r penderfyniadau sydd o bwys i bobol yng Nghymru yn cael eu gwneud gan bobol sy’n byw yng Nghymru, ond lle’r ydyn ni’n parhau i fod yn rhan o Deyrnas Unedig sy’n deg i bawb ac yn gweithredu ar ran pawb.
“Mae’r sgwrs dros y 12 mis diwethaf a’r ffordd mae Llywodraeth Cymru wedi defnyddio ein pwerau i gadw Cymru’n ddiogel ac i wneud pethau mewn ffordd sy’n parhau i ennyn cefnogaeth pobol yng Nghymru wedi arwain nifer o bobol i ofyn ai’r drefn bresennol yw’r un gywir.
“Dw i’n credu bod rhaid diwygio’r Deyrnas Unedig mewn ffordd sylfaenol os yw hi am oroesi, a’i bod hi mewn mwy o berygl heddiw nag y bu ar unrhyw adeg arall yn fy oes wleidyddol.”