Dydy Iechyd Cyhoeddus Cymru ddim wedi cyhoeddi unrhyw farwolaethau yn eu ffigurau Covid-19 dyddiol heddiw (dydd Sul, Mawrth 28).

Mae’n golygu mai cyfanswm y marwolaethau sydd wedi’u cyhoeddi yn y wlad ers dechrau’r pandemig yw 5,505.

Ond maen nhw wedi cyhoeddi 171 o achosion, sy’n golygu mai 209,066 yw’r cyfanswm hwnnw ers dechrau’r pandemig.

Ond dydy’r ffigurau ddim yn debygol o fod yn fanwl gywir yn sgil y ffordd y caiff marwolaethau ac achosion eu cofnodi a’u hadrodd.

‘Rhaid i ni fod yn glir iawn nad yw’r coronafeirws wedi diflannu’

“Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi bod y gofyniad ‘aros yn lleol’ yn cael ei godi heddiw, dydd Sadwrn 27 Mawrth, ac y gall llety gwyliau hunangynhwysol agor i’r rhai sy’n byw yng Nghymru,” meddai Dr Chris Williams, Cyfarwyddwr Digwyddiadau ar gyfer yr ymateb i’r achosion o’r Coronafeirws Newydd (COVID-19) yn Iechyd Cyhoeddus Cymru.

“Dylai pobol aros o fewn ffiniau Cymru, oni bai bod angen gwneud taith hanfodol fel mynd i’r gwaith neu ar gyfer addysg.

“Yn ogystal, gall chwech o bobol o ddwy aelwyd gwrdd yn yr awyr agored, gall gweithgareddau wedi’u trefnu yn yr awyr agored ar gyfer plant dan 18 oed ailddechrau, a gall llyfrgelloedd ailagor.

“Mae’r ychydig o lacio hwn ar reolau cyfyngiadau symud Covid yn galonogol, ond mae’n rhaid i ni fod yn glir iawn nad yw’r coronafeirws wedi diflannu. Er bod nifer yr achosion yn gostwng yn gyffredinol, mae sawl ardal sydd â chyfraddau uwch o hyd ac mae nifer fawr o bobl sydd dal heb gael eu brechu.

“Er mwyn diogelu pawb, gan gynnwys y rhai sydd fwyaf agored i niwed, rhaid i ni i gyd lynu wrth y rheolau.

“Mae’n rhaid i bawb fod yn wyliadwrus yn gyson drwy gadw 2m oddi wrth bobl nad ydych yn byw gyda nhw, ymarfer hylendid dwylo a gwisgo masg mewn lleoedd dan do.

“Mae’n glir nad yw’r Coronafeirws wedi diflannu.

“Mae cyfyngiadau Llywodraeth Cymru yn nodi na ddylech fynd i unrhyw gartref arall na chymysgu dan do â phobol eraill nad ydych yn byw gyda nhw.

“Os bydd eich tîm Profi, Olrhain, Diogelu lleol yn cysylltu â chi, mae’n bwysig eich bod chi’n dweud y gwir wrthyn nhw ynglŷn â lle rydych chi wedi bod a phwy rydych chi wedi cwrdd â nhw.

“Ni fyddant yn eich barnu. Eu nod yw helpu i atal trosglwyddiad parhaus y feirws ac i ddiogelu’r gymuned.

“Os yw eich tîm TTP lleol yn gofyn i chi hunanynysu, gwnewch yn siŵr eich bod yn gwneud hynny am y deg diwrnod llawn a bydd hyn yn helpu i dorri unrhyw gadwyni trosglwyddo.”

Annog pobol i gael brechlyn

Yn y cyfamser, mae’n annog pobol i sicrhau eu bod nhw’n cael brechlyn Covid-19.

Daw hyn yn dilyn cadarnhad fod 1,387,583 o bobol wedi cael dos cyntaf o’r brechlyn, a bod 412,663 hefyd wedi derbyn ail ddos erbyn hyn.

“Rydym yn annog pawb, beth bynnag fo’u cefndir, eu demograffeg gymdeithasol a’u hethnigrwydd, i gael y brechlyn pan gynigir ef,” meddai.

“Yn dilyn adolygiad gwyddonol manwl o’r holl ddata sydd ar gael, mae’r MHRA wedi cadarnhau nad yw’r dystiolaeth sydd ar gael yn awgrymu bod ceuladau gwaed yn y gwythiennau (thromboemboledd gwythienol) yn cael eu hachosi gan Frechlyn AstraZeneca COVID-19.

“Mae hyn yn dilyn adolygiad manwl o’r achosion a gofnodwyd a hefyd data o dderbyniadau i ysbytai a chofnodion meddygon teulu.

“Mae hyn wedi’i gadarnhau gan grŵp cynghori annibynnol y Llywodraeth, y Comisiwn ar Feddyginiaethau Dynol, y mae ei wyddonwyr a’i glinigwyr arbenigol wedi adolygu’r data sydd ar gael hefyd.

“Mae arnom angen eich cefnogaeth barhaus i reoli lledaeniad y Coronafeirws, felly peidiwch ag anfon eich plentyn i’r ysgol os yw’n sâl, hyd yn oed os nad ydych yn siŵr a oes ganddo’r coronafeirws.

“Parhewch i weithio gartref os oes modd o gwbl.”

Cyngor i rieni

“Pan fyddwch yn mynd â’ch plentyn i’r ysgol, cadwch bellter oddi wrth rieni eraill ar bob adeg, gwisgwch orchudd wyneb a pheidiwch ag aros o gwmpas i sgwrsio,” meddai wedyn wrth rieni.

“Peidiwch â gwahodd plant eraill na’u rhieni i’ch cartref i chwarae neu i aros dan do, hyd yn oed os ydynt yn yr un swigen yn yr ysgol.

“Rhaid i ni barhau i gyfyngu ar nifer y bobl rydym yn eu cyfarfod yn gymdeithasol er mwyn lleihau lledaeniad y feirws.

“Ar hyn o bryd, gall uchafswm o chwech o bobl o ddwy aelwyd sy’n byw yn lleol gyfarfod yn yr awyr agored, gan gynnwys gerddi preifat.

“Sicrhewch fod eich plentyn yn deall pwysigrwydd golchi dwylo yn rheolaidd.

“Adroddir am achosion o’r coronafeirws fesul amrywiolyn yng Nghymru ar wefan Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

“Y straen amlycaf yng Nghymru yw amrywiolyn Caint ac, ar hyn o bryd, nid oes tystiolaeth bod amrywiolynnau sy’n peri pryder yn trosglwyddo’n eang yng nghymunedau Cymru.

“Mae cyfyngiadau ar deithio yn y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol yn parhau i fod ar waith. Mae rhagor o wybodaeth am y canllawiau teithio cyfredol ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.

“Os byddwch chi neu aelod o’ch aelwyd yn datblygu peswch, twymyn neu newid i synnwyr blasu neu arogli, rhaid i chi hunanynysu ar unwaith ac archebu prawf Coronafeirws am ddim, naill ai drwy ffonio 119 neu drwy ymweld â https://llyw.cymru/cael-prawf-coronafeirws-covid-19.”