Mae adroddiadau bod gwefan Alba, plaid wleidyddol newydd Alex Salmond, wedi cael ei hacio, ddiwrnod yn unig ar ôl iddi gael ei lansio.

Cafodd y blaid wybod fod enwau’r rhai sy’n cefnogi digwyddiadau’r blaid ar eu gwefan wedi cael eu datgelu i’r sawl sy’n gyfrifol am yr achos o hacio.

Ond maen nhw’n dweud y gall pobol fod yn “hyderus” erbyn hyn fod y wefan yn ddiogel unwaith eto.

Mae’r blaid wedi ymddiheuro nad oedd y wefan “wedi gwrthsefyll” yr ymgais i’w hacio fore ddoe (dydd Sadwrn, Mawrth 27), a’u bod nhw wedi rhoi gwybod i Swyddfa’r Comisiynydd.