Mae Douglas Ross, arweinydd Ceidwadwyr yr Alban, yn dweud bod y Blaid Lafur a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn y wlad yn “anwybyddu” y perygl y gallai’r wlad fynd yn annibynnol, ac mae’n galw arnyn nhw i glymbleidio yn erbyn annibyniaeth.

Daw hyn yn dilyn lansio plaid newydd Alba, plaid Alex Salmond sy’n ymgyrchu tros annibyniaeth wrth gydweithio â’r SNP, ei blaid flaenorol.

Ond dydy Llafur na’r Democratiaid Rhyddfrydol ddim wedi ymateb yn gadarnhaol i’r awgrym, wrth i Anas Sarwar, arweinydd Llafur, yn ei orchymyn i “dyfu i fyny” ac Alister Carmichael, Aelod Seneddol y Democratiaid Rhyddfrydol yn dweud ei fod e’n achosi “rhwyg”.

Yn ôl Douglas Ross, y flaenoriaeth i’r Alban ar hyn o bryd yw adferiad y wlad yw dileu Covid-19 ac adferiad wedi’r feirws.

“Allwn ni ddim gwneud hynny tra bo’r cenedlaetholwyr yn benderfynol o fynd â ni drwy refferendwm annibyniaeth niweidiol arall i’n rhwygo,” meddai.

“Mae Anas yn naïf ar y naw wrth awgrymu y gallwn ni rywsut anwybyddu’r bygythiad o du’r SNP a phlaid Alba.

“Dylen ni fod yn canolbwyntio ar ddod drwy’r pandemig iechyd ac ymgymryd â’r argyfwng a fydd yn dilyn, a chael Senedd yr Alban yn canolbwyntio 100% ar ein hadferiad a’n hailadeiladu.

“Mae’r cenedlaetholwyr eisiau mynd â ni’n ôl i raniadau’r gorffennol.

“Mae’n rhaid i bob plaid o blaid y Deyrnas Unedig gydnabod hynny, a dyna pam fy mod yn parhau i gynnig i Lafur yr Alban a Democratiaid Rhyddfrydol yr Alban eu bod nhw’n cydweithio â ni.

“Dydyn ni ddim yn cytuno ar bopeth, fyddwn ni fyth yn cytuno ar bopeth, ond dylem gytuno am fygythiad y cenedlaetholwyr i’r Alban a gweddill y Deyrnas Unedig.”

Yr Alban ‘yn nes at y freuddwyd nag erioed o’r blaen’

Daw’r ffrae wrth i Keith Brown, dirprwy arweinydd yr SNP, ddatgan mewn cynhadledd fod yr Alban yn nes at y “freuddwyd” o ennill annibyniaeth nag erioed o’r blaen.

Mae sawl pôl piniwn yn dangos bod y rhan fwyaf o drigolion y wlad bellach o blaid annibyniaeth, er bod sawl pôl hefyd yn datgan gostyngiad yn y gefnogaeth.

“Rydym yn nes at wireddu ein breuddwyd o Alban annibynnol nag erioed o’r blaen,” meddai, wrth dynnu sylw at y gwahaniaeth rhwng “optimistiaeth” cefnogwyr annibyniaeth a Boris Johnson “nad oes modd ymddiried ynddo”.

Mae’n dweud bod angen annibyniaeth ar yr Alban er mwyn gwarchod y Gwasanaeth Iechyd ac osgoi dychwelyd i fesurau llymder Llywodraeth Prydain.

Mae’n dweud bod gan bleidleiswyr yn etholiadau Holyrood “un cwestiwn i’w ateb” ar Fai 6 – “a ddylai adferiad yr Alban fod yn nwylo’r Alban, neu yn nwylo Torïaid San Steffan megis Boris Johnson nad oes modd ymddiried ynddo?”

“Mae hynny’n golygu bod gan bobol yr Alban yr hawl i benderfynu eu dyfodol mewn refferendwm annibyniaeth pan fo’r argyfwng Covid ar ben,” meddai wedyn.

“Annibyniaeth yw’r unig ffordd o warchod ein sefydliad mwyaf annwyl, y Gwasanaeth Iechyd.”