Mae un o weinidogion Llywodraeth Prydain yn dweud ei fod yn hyderus y bydd brechlynnau Covid-19 Moderna ar gael yng ngwledydd Prydain o fis nesaf.

Ond dywed Oliver Dowden, Ysgrifennydd Diwylliant San Steffan, ei fod yn llai optimistaidd y bydd y cyfyngiadau ar deithio dramor yn ddiangen a chyfyngiadau symud eraill yn cael eu llacio’n llawn cyn mis Mehefin.

Fe fu ffrae ers tro â’r Undeb Ewropeaidd ynghylch dosbarthu brechlynnau ac mae allforion AstraZeneca wedi cael eu hatal yn India am y tro.

Serch hynny, mae Oliver Dowden yn dal o’r farn y bydd brechlynnau wedi’u cynnig i bob oedolyn yng ngwledydd Prydain erbyn mis Gorffennaf.

Mae llywodraeth Prydain wedi archebu 17m dos o’r brechlyn Americanaidd, gyda brechlynnau AstraZeneca Rhydychen a Pfizer eisoes yn cael eu rhoi yng ngwledydd Prydain.

Ond mae’r newyddion am Moderna yn hwb i dargedau’r llywodraeth, yn ogystal â’r sicrwydd y bydd pawb wedi cael cynnig ail ddos o fewn 12 wythnos ar ôl y dos cyntaf.

“Rydym yn disgwyl, ym mis Ebrill, y bydd Moderna yn dod,” meddai wrth raglen Andrew Marr ar y BBC.

Teithio dramor

Yn y cyfamser, bydd gweithgor Llywodraeth Prydain yn dod i benderfyniad ynghylch cyfyngiadau teithio dramor ar Ebrill 12.

Yn ôl Oliver Dowden, mae “pob opsiwn” dan ystyriaeth a’r rheiny’n cynnwys lleihau’r cyfnod cwarantîn a chyflwyno mwy o brofion ar gyfer pobol sy’n dymuno teithio i wledydd lle mae perygl isel yn sgil y feirws.

Ond fe ddywedodd wrth raglen Sophy Ridge ar Sky fod yna “heriau ynghylch teithio’n rhyngwladol” wrth i nifer yr achosion barhau i godi yn Ewrop.