Mae’r Eisteddfod Genedlaethol wedi cyhoeddi rhestr testunau ar gyfer yr Eisteddfod AmGen, sydd i’w chynnal ddechrau mis Awst eleni.

Daw hynny, wedi i’r ŵyl oedd i’w chynnal yng Ngheredigion gael ei gohirio am yr ail flwyddyn yn olynol, yn sgil pandemig Covid-19.

O ganlyniad, roedd y trefnwyr yn awyddus i greu rhestr testunau mymryn yn wahanol i’r arfer.

Mae’r rhestr testunau’n cynnwys dros 80 o gystadlaethau amrywiol, sydd yn cwmpasu gwahanol elfennau o’r celfyddydau, yn gystadlaethau llwyfan ac yn gystadlaethau cyfansoddi.

“Denu cynulleidfa eang iawn”

“Ry’n ni’n falch iawn o gyhoeddi ein Rhestr Testunau ar gyfer Eisteddfod AmGen heddiw (Mawrth 29),” meddai Betsan Moses, Prif Weithredwr yr Eisteddfod.

“Mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn gyfnod heriol i bawb ac mae cymaint ohonom ni wedi gweld eisiau’r cyfle i gystadlu, fel unigolion ac fel grwpiau a phartïon, felly rwy’n gobeithio y bydd y rhestr yma’n llwyddo i ddenu cynulleidfa eang iawn.

“Ry’n ni’n ddiolchgar i bawb sydd wedi bod yn rhan o’r gwaith i dynnu’r rhestr ynghyd.

“Mae wedi bod yn dipyn o gamp dod â phopeth at ei gilydd mewn cyfnod cymharol fyr a phawb yn parhau i weithio o gartref,” meddai.

“Ac rwy’n gobeithio y bydd y rhestr yn apelio – mae ‘na ambell gystadleuaeth wahanol a newydd yn y rhestr eleni, ynghyd â thestunau mwy cyfarwydd sy’n sicr o ddenu diddordeb.

“Fe fyddwn yn cyhoeddi rhagor o fanylion a gwybodaeth am wythnos yr Eisteddfod ei hun dros y misoedd nesaf, ac yn y cyfamser, mae’r neges yn glir – ewch ati i gystadlu a mwynhewch!”

Cystadlaethau newydd

O ystyried mai Eisteddfod AmGen yw hon eto eleni, mae’n gyfle i arbrofi gydag ambell gystadleuaeth newydd, yn ôl trefnwyr yr ŵyl.

Am y tro cyntaf, mae dwy gystadleuaeth gerddoriaeth electroneg wedi’u cynnwys yn y rhestr, sef cystadleuaeth ar gyfer perfformio gwaith electroneg a chystadleuaeth cyfansoddi darn o waith.

Mae yna hefyd gystadleuaeth wedi ei threfnu ar y cyd gyda’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol, sef i ysgrifennu pennod gyntaf nofel ar gyfer dysgwyr lefel Canolradd.

Mae cynlluniau hefyd ar droed ar gyfer y Lle Celf, ble bydd arddangosfa rithwir yn cael ei gynnal.

Gan weithio gyda chwmni 4Pi, bydd dwy arddangosfa’n cael eu creu, un yn arddangos 25 o weithiau gan artistiaid o dan 25 oed a’r llall yn arddangos 25 o weithiau gan artistiaid dros 25 oed.

Sut i gystadlu?

Mae gofyn i unrhyw un sy’n dymuno cystadlu i gofrestru ar-lein, gyda fideos yn cymryd lle y rhagbrofion arferol.

Dyddiad cau’r cystadlaethau llwyfan yw 5pm dydd Llun 17 Mai, a dyddiad cau ar gyfer y cystadlaethau cyfansoddi yw 5pm dydd Llun 1 Mehefin.

Mae’r holl gyfarwyddiadau i’w canfod ar wefan yr Eisteddfod.

Eisteddfod Llanrwst 2019

Busnesau ar eu colled yn sgil gohirio’r Eisteddfod Genedlaethol

Huw Bebb

“Mae rhan helaeth o’n hincwm ni’n dod o’r Eisteddfod”

Gohirio Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion tan 2022

A bydd rhaid lleihau nifer y staff i “hanner ei faint” meddai’r Prif Weithredwr.