Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi cyhoeddi cynllun gwerth £34m i greu swyddi ac ail-adeiladu’r economi.

Mewn ymdrech i annog mwy o gyfleoedd cyflogaeth a chefnogi creu ac ehangu meicro fusnesau, mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi cyflwyno cynllun ‘Jump Start’.

Fe fyddai cronfa gwerth £34m yn helpu meicro fusnesau i dalu cyfraniadau yswiriant gwladol y ddau aelod o staff gyntaf sy’n cael eu cyflogi am ddwy flynedd.

Yn ôl arweinydd y blaid Andrew RT Davies fe fyddai’r cynllun yn “trawsnewid” economi Cymru.

Dywedodd nad oedd “amser i’w golli” cyn rhoi cynllun mewn lle i hybu’r economi wedi’r pandemig, gan ychwanegu bod y cynllun yn dangos bod y Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi meicro fusnesau a gweithwyr Cymru.

“Fe fyddwn ni’n creu amgylchedd mwy ffafriol i fusnesau Cymru a thwf economaidd, a fydd yn arwain at fwy o  swyddi a gwell Cymru.”