Mae Nick Ramsay, Aelod o’r Senedd dros Sir Fynwy, wedi gadael y Blaid Geidwadol wedi i’r berthynas a’i blaid ddod o dan straen gynyddol yn ddiweddar.

Mae’r gwleidydd 45 oed, sydd yn wreiddiol o Gwmbrân, wedi cynrychioli’r blaid Geidwadol yn y Senedd ers 2007.

Fodd bynnag, daeth cyhoeddiad ar gychwyn mis Mawrth na fyddai’n brwydro am sedd Mynwy yn y Senedd yn dilyn cyfarfod o gangen leol y Ceidwadwyr.

Roedd hynny yn dilyn cyfres o ddigwyddiadau, sydd wedi peri i’r berthynas rhwng y gwleidydd a’r blaid i dorri lawr.

Cefndir

Yn ôl adroddiadau, fe wnaeth y gwleidydd dynnu’n ôl o’r cyfarfod i ddewis ymgeisydd yn dilyn penderfyniad i ailagor y broses, yn sgil deiseb gan aelodau lleol.

Aeth Mr Ramsay ati i fygwth cyfraith – er iddo gael ei rybuddio gan ei gyfreithwyr y gallai wynebu costau.

Daeth Mr Ramsay a’r achos i ben yn ddiweddarach – a gorchmynnodd barnwr ei fod yn talu costau o £25,000.

Pleidleisiodd cyfarfod cyffredinol arbennig y blaid leol i beidio ag ailgadarnhau Mr Ramsay fel ymgeisydd.

Peter Fox, arweinydd Cyngor Sir Fynwy, gafodd ei ddewis i gynrychioli’r Ceidwadwyr ar ôl curo Carolyn Webster, ymgeisydd Gorllewin Caerdydd yn etholiad cyffredinol 2019.

Dŵr poeth

Ym mis Ionawr, 2020 cafodd Nick Ramsay ei wahardd o’r grŵp yn dilyn digwyddiad yn ei dŷ yn Rhaglan llynedd, ble cafodd ei arestio.

Y diwrnod canlynol, fe gafodd ei ryddhau o’r ddalfa heb gyhuddiadau – ond mi barhaodd ei waharddiad o’r grŵp Ceidwadol yn y Cynulliad mewn grym.

O ganlyniad, penderfynodd yr Aelod Cynulliad i siwio arweinydd ei blaid ei hun ar y pryd, Paul Davies AoS, cyn i farnwr yr Uchel Lys orchymyn ei fod yn cael dychwelyd i grŵp y Ceidwadwyr yn y Cynulliad. Yn ddiweddarach cafodd ei dderbyn yn ôl i’r Blaid Geidwadol yn llawn.

Yn ddiweddarach, bu rhai o aelodau’r senedd ganfod eu hunain mewn dŵr poeth ar ôl yfed alcohol yn y Senedd dyddiau ar ôl i waharddiad ar alcohol o safleoedd trwyddedig ddod i rym ledled Cymru.

Er ei fod wedi gwadu bod ynghlwm â’r digwyddiad, mae lle i gredu mai Nick Ramsay, oedd pedwerydd Aelod o’r Senedd oedd yn bresennol yn y digwyddiad.

Sylwadau a Sedd Mynwy

Mewn datganiad, dywedodd Mr Ramsay: “Rwyf heddiw wedi ymddiswyddo o Blaid Geidwadol Cymru a Grŵp Ceidwadwyr Cymru yn y Senedd.

“Rwyf wedi fy nadrithio fwyfwy gydag agweddau ar gyfeiriad y Blaid Geidwadol a’i symudiad oddi wrth tir canol gwleidyddiaeth y Deyrnas Unedig.”

“Gallaf gadarnhau y byddaf yn ymladd etholiad y Senedd ar lwyfan annibynnol, llwyfan o newid go iawn,” meddai.

Yn sgil ei benderfyniad i adael y blaid a sefyll yn annibynnol, bydd Nick Ramsay (Annibynnol) yn herio Peter Fox (Ceidwadwyr), Hugh Kocan (Plaid Cymru), Jo Watkins (Democratiaid Rhyddfrydol) a Catrin Maby (Llafur) Ian Chandler (Gwyrdd) a Laurence Williams (Gwlad) ar gyfer y sedd ar Fai 6.

Nick Ramsay ddim am frwydro am sedd Mynwy yn y Senedd

Daw hyn yn dilyn cyfarfod o gangen leol y Ceidwadwyr i ddewis ymgeisydd

 

Gwahardd Nick Ramsay o grŵp Cynulliad y Ceidwadwyr

Daw hyn yn sgil “digwyddiad” dydd Mercher, Ionawr 1