Mae nifer o fusnesau bach yn dweud eu bod nhw’n allforio llai i’r Undeb Ewropeaidd yn dilyn Brexit.
Yn ôl y Ffederasiwn Busnesau Bach roedd 35 o’r 132 o fusnesau y gwnaethon nhw eu holi wedi stopio masnachu â’r Undeb Ewropeaidd dros dro neu’n barhaol, tra bod un ym mhob deg yn ystyried rhoi’r gorau iddi.
Dangosodd adroddiad gan y Llywodraeth bod allforion i’r Undeb Ewropeaidd wedi lleihau 41% ym mis Ionawr, wrth i’r newidiadau mewn rheolau masnachu ddod i rym ar Ragfyr 31.
Mae sawl busnes bach wedi’u heffeithio gan y newidiadau, gyda gwaith papur newydd, costau ychwanegol, ac oedi’n achosi trafferthion.
“Roedd pethau lot gwell o’r blaen”
Yn ôl Darren Sturrs, Cydlynydd Gwerthu Halen Môn, “roedd pethau lot gwell o’r blaen”.
“Yn yr Undeb Ewropeaidd maen nhw’n gorfod talu costau mewnforio, ac maen nhw’n gofyn “why do I have to pay?”, ac rydym ni’n gorfod dweud wrthyn nhw mai Brexit ydi’r bai,” esbonia Darren Sturrs wrth golwg360.
“Efo’r fasnach business to business rydym ni’n gwneud anfonebau masnachu ac ati, ac mae’n edrych fel bod popeth yn mynd yn iawn. Ond, mae yna lwyth o oedi yn amlwg, ac mae’n cymryd lot hirach i bethau gyrraedd yno.
“Maen nhw’n gofyn am sanitary checks, ond doedden ni heb glywed am hyn oherwydd roedd pethau i fod reit straightforward efo’r halen – dydi o ddim yn animal product.
“Rydym ni wedyn yn gyrru llythyr i ddweud nad ydi o’n animal product, a rhestr o’r cynhwysion. Just halen ydi o. Rydym ni wedi gyrru sources ac ati, ac maen nhw wedi mynd trwodd.
“Ond, yn gyffredinol mae yna oedi, a phethau’n mynd yn sownd yn customs, ac wedyn rydym ni’n gorfod trïo’u rhyddhau nhw ochr yna.
“Roeddem ni’n allforio menyn i gwmni yn Sbaen, ond rydym ni wedi gorfod stopio hynny achos bod o’n cyfri fel animal product,” eglura Darren Sturrs.
“Fysa ni’n gorfod cael vet checks yn fa’ma cyn ei yrru fo. Felly rydym ni wedi stopio hynny, doedd o ddim yn worthwhile.
“Doedden nhw ddim yn ordors mawr, ond doedd o ddim werth talu am y checks i’w gyrru nhw ddim mwy,” esbonia.
“Dw i ddim yn ffan”
Roedd ystadegau Llywodraeth Prydain yn dangos bod un ym mhob pump o fusnesau bach gwledydd Prydain yn allforio i’r Undeb Ewropeaidd yn 2019, er bod y ganran honno wedi gostwng o 24% cyn argyfwng ariannol 2008.
Yn ôl Darren Sturrs, mae’n anodd anodd gwybod beth yw union effaith y gwaith a chostau ychwanegol ar eu hallforion.
“Mae ’na un neu ddau o’n darparwyr ni wedi parhau i ordro o leiaf unwaith y mis ers mis Ionawr, ond mae’n anodd dweud faint fydd effaith hyn wrth gymharu â llynedd oherwydd roedd Covid o gwmpas adeg yma llynedd,” meddai.
Yn ogystal â’r oedi, mae’n rhaid i’r cwmni wneud gwaith ychwanegol er mwyn cwblhau’r gwaith papur.
“Mae pawb yn gorfod gwneud mwy ochr yma efo’r anfonebau masnach a ballu. Mae’r cwmnïau rydym ni’n eu defnyddio efo logistics wedi helpu, ac maen nhw wedi gorfod dysgu popeth reit sydyn. Mae popeth dal reit newydd.
“Dw i ddim yn ffan o lot o’r pethau rydym ni’n gorfod eu gwneud, roedd o lot gwell o blaen ‘de,” meddai Darren Sturrs.
“Bydd rhaid gweld beth ydi’r gwir impact pan fydda ni’n gallu.”
“Rydym ni mewn twll”
Tra bod pethau’n dipyn anoddach i Halen Môn ers i’r rheolau newydd ddod i rym, nid yw cynhyrchwyr cregyn gleision wedi cael masnachu gyda’r Undeb Ewropeaidd o gwbl ers fis Ionawr.
“Unwaith y daeth yn amlwg bod y Deyrnas Unedig am adael y Farchnad Sengl a’r Undeb Ewropeaidd, fe wnaethom ni sylwi bod risg i’n masnach,” meddai James Wilson o gwmni ffermio cregyn gleision Deep Dock.
“Mae ein holl gynnyrch ni, fwy neu lai, yn mynd i’r Farchnad Ewropeaidd. Fel arfer, byddem ni’n cynhyrchu 5,000 i 7,000 tunnell bob blwyddyn, a byddai 95% ohono’n mynd i’r farchnad yn Ffrainc.
“Fe wnaethom ni sylwi bod gadael yr Undeb Ewropeaidd a’r Farchnad Sengl am fod yn risg i hynny, felly fe wnaethom ni ofyn i Lywodraeth y Deyrnas Unedig a Llywodraeth Cymru sicrhau ein bod ni’n gallu parhau i fasnachu ar ôl gadael.
“Cafodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig gadarnhad gan y Comisiwn Ewropeaidd yn 2019, mae’n debyg, ac roedd popeth am fod yn iawn,” esbonia James Wilson, sy’n hel y cregyn gleision ar y Fenai.
“I ddechrau, roeddem ni’n poeni am y costau ychwanegol y byddai’n rhaid i ni eu talu, ac a oedd y fasnach am fod yn ymarferol.
“Roeddem ni’n gyrru’r cregyn gleision drosodd mewn wagans oedd yn mynd yn ôl i’r Undeb Ewropeaidd, ac roedd costau trafnidiaeth tua 1,200€ i 1,500€ y wagan. Wythnos gyntaf Ionawr fe gawsom ni gwôt am 3,600€ y wagan. Doedd o ddim gymaint â hynny o syndod, ond roedd yn sioc hefyd.
“Byddai ein helw ni ar wagan o gregyn gleision fel arfer yn 40%, os ydi’r wagan yn costio 30% o’r elw yna fyddai hynny ddim yn gadael llawer o elw. Dyna oedd ein pryder ar ddechrau Ionawr.
“Yna, fe aeth cydweithiwr â chynnyrch drosodd. Aeth un llwyth drwodd, ond cymerodd 72 awr i wneud y siwrne ac roedd y cregyn gleision wedi marw erbyn hynny.
“Yna aeth na un arall, a bron i hwnnw gael ei wrthod ac nid oedd y dyn yn gallu deall pam. Felly, fe wnaeth ein hasiantaeth fasnachu yrru at y Comisiwn Ewropeaidd i ofyn be oedd yn mynd ymlaen.
“Fe wnaethom ni dderbyn datganiad yn ôl yn dweud bod yr holl beth wedi cael ei wahardd. Doedd dim masnach i fynd yn ei flaen rhwng yr Undeb Ewropeaidd a’r Deyrnas Unedig.
“Roedd hynny’n sioc, a dyna ydi’r sefyllfa ers hynny,” ychwanega.
“Nid ydym ni’n cael gyrru cregyn gleision, cocos na wystrys o ddyfroedd gwledydd Prydain i’r Undeb Ewropeaidd o gwbl ar y funud.
“Nid ydym ni wedi cael incwm ers dechrau’r flwyddyn.
“Does dim marchnadoedd eraill, rydym ni’n gwerthu mewn llwythi felly ni fedrwn ni werthu’n uniongyrchol i’r farchnad yn y Deyrnas Unedig. Mae’r cynnyrch yn marw, dim ond am ddiwrnod, neu ddiwrnod a hanner, y mae’r mysyls yn gallu byw ar y wagan.
“Dim ond i’r farchnad fewnol allwn ni werthu fel arall, ac nid oes llawer o farchnad yno. Rydym ni mewn twll.”