Mae arbenigwyr yn dweud y dylid annog pobol i fynd ar wyliau o fewn y Deyrnas Unedig dros yr haf, yn hytrach na mynd dramor.
Yn ôl y Fonesig Anne Johnson, cario amrywiolion newydd o’r coronafeirws i mewn i’r Deyrnas Unedig yw “un o’r peryglon mwyaf”.
“Mae hyn yn risg mewn llefydd lle mae nifer yr achosion yn uchel. Rydw i o blaid aros yn y Deyrnas Unedig,” meddai wrth BBC Radio 4.
Dywedodd yr Athro Syr Mark Walport, cyn-gynghorydd gwyddonol Llywodraeth y Deyrnas Unedig, bod rhaid “gweithredu yn unol â’r data” wrth ystyried a ddylid gwahardd pobol rhag teithio dramor, neu wneud teithio’n anodd drwy orfodi pobol i hunanynysu wedyn.
“Ar hyn o bryd, mae nifer yr achosion yn nifer o wledydd Ewrop yn cynyddu – 36,000 y dydd yn Ffrainc, 16,000 yn yr Almaen, 22,000 yn yr Eidal,” meddai.“Mae’r rhifau yn siarad dros eu hunain.”
Ers y penwythnos mae gan bobol sy’n byw yng Nghymru’r hawl i aros mewn lletyau hunangynhaliol o fewn y wlad.
Wythnos diwethaf, dywedodd Gweinidog Iechyd Llywodraeth Cymru y byddai’n synnu pe bai’n mynd ar wyliau dramor dros yr haf.
Tystysgrifau brechu “ddim yn anochel”
Dywedodd Syr Mark Walport nad yw tystysgrifau brechu yn “anochel”.
“Bydd yn llawer haws ystyried y manteision a’r anfanteision pan fyddwn ni’n gwybod mwy am effaith y brechlyn,” eglurodd.
“Nid ydym ni’n gwybod am ba mor hir mae’r brechlyn yn gweithio, ond mae’n debyg ei fod yn gyfnod go lew.
“Dw i’n credu mai dyma’r cwestiynau y mae’r rhai sy’n ffurfio’r polisi yn eu wynebu – ac maen nhw’n gwestiynau anodd.
“Dylwn ni fod yn derbyn adroddiad gan y grŵp sy’n edrych ar hyn o fewn yr wythnos neu ddwy nesaf.”
Michael Gove sy’n arwain yr ymchwiliad ar hyn, ac mae’n debyg ei fod yn ystyried y posibilrwydd o gynnwys tystysgrif brechu ddigidol fel rhan o app coronafeirws y GIG.
‘Y drws ddim ar gau ar wyliau tramor’, medd Hancock
Yn ôl Ysgrifennydd Iechyd Llywodraeth y Deyrnas Unedig dydy’r drws “ddim ar gau” ar wyliau tramor yr haf hwn a bydd gwyddonwyr y Llywodraeth yn gwybod mwy yn ystod yr wythnosau nesaf.
Dywedodd Mr Hancock fod ganddo “lawer o gydymdeimlad” â’r diwydiant teithio, gan ychwanegu: “Rydyn ni i gyd eisiau aildanio pethau cyn gynted â phosib, ond y peth pwysicaf yw diogelu’r adferiad yma gartref fel bod pobl yn gallu gweld eu hanwyliaid a bod dim rhaid inni ailgyflwyno cyfyngiadau eto.
“Efallai y byddwn yn cyrraedd sefyllfa lle os ydych wedi cael eich pigiad, yna bydd gwledydd eraill yn dweud: ‘Mae’n rhaid i chi gael y pigiad i ddod i mewn.’ Ac felly byddwn yn sicrhau bod pawb yn gallu gwneud hynny.”
Pan ofynnwyd iddo a allai fod gwyliau tramor yr haf hwn, dywedodd: “Mae’n ddigon posibl y bydd, fyddwn i ddim yn diystyru hynny.”