Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi galw am bolisi amaethyddol “gwirioneddol Gymreig”, sydd yn anelu at sicrhau ffyniant swyddi, iaith a diwylliant y wlad.

Daw hynny, wedi’r undeb fynegi nifer o bryderon ynglŷn â chynllun Llywodraeth Cymru ar gyfer amaethyddiaeth.

Mae’r ‘Papur Gwyn ar amaeth yng Nghymru’ gafodd ei gyhoeddi ym mis Rhagfyr llynedd yn nodi cyfres o gynigion i greu sector amaethyddol cynaliadwy ôl Brexit dros y 15 i 20 mlynedd nesaf.

Fodd bynnag, mae llywydd Undeb Amaethwyr Cymru, Glyn Roberts o’r farn nad yw gweledigaeth y Llywodraeth yn cyfateb i anghenion y diwydiant amaethyddol yng Nghymru.

Dilyn Lloegr?

Un o bryderon yr Undeb, yw nad yw’r cynigion wedi eu hanelu at sicrhau ffyniant swyddi, iaith a’n diwylliant.

“Wrth gwrs, rydym yn cytuno y dylai nwyddau cyhoeddus fod yn rhan bwysig o gynllun cymorth gwledig yn y dyfodol,” meddai Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru, Glyn Roberts.

“Ond dylai darparu cyflogaeth, ffyniant economaidd, cymdeithasol a diwylliannol hefyd fod yn egwyddorion sylfaenol sy’n sail i gynllunio mecanweithiau cymorth yn y dyfodol.

“Mae gennym hanes balch o gynllunio polisi amaethyddol i Gymru ac yn y gorffennol rydym wedi gwyro’n sylweddol oddi wrth bolisïau Lloegr – er mawr fudd i ni – a dylem barhau i wneud hynny,” meddai.

“Mae’r Alban a Gogledd Iwerddon yn manteisio i’r eithaf ar eu pwerau datganoledig ac yn bwrw ymlaen â chynlluniau i ddefnyddio nifer o ddulliau gwahanol i gyflawni’r hyn sydd ei angen ar gyfer eu cymunedau amaethyddol a gwledig eu hunain.”

“Loteri cod post”

Dywedodd Glyn Roberts, ei fod yn pryderu ynglŷn ag effaith y Papur Gwyn ar ffermydd teuluol Cymru yn benodol:

“Mae’n syndod nad oes sôn am gapio taliadau na chanolbwyntio cymorth ar ffermydd teuluol yn y papur gwyn, o ystyried y dull presennol a fabwysiadwyd yng Nghymru a pheryglon y dull nwyddau un-ddimensiwn,” meddai.

Mae’r Undeb o’r farn bod perig i hynny greu loteri cod post, ble mae ffermwyr yn atebol i reolau, blaenoriaethau a chyfraddau talu gwahanol.

“O’i gymharu, byddai cynigion amgen y diwydiant ffermio Cymru yn cynnwys blaenoriaethau amgylcheddol, cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd mewn ffordd gytbwys a theg,” meddai Glyn Roberts.

Llywodraeth Cymru yn eu “hanwybyddu”

I ychwanegu at eu pryderon ynglŷn ac gweledigaeth y Llywodraeth, teimlai hefyd eu bod yn cael eu hanwybyddu.

“Byddai unrhyw newidiadau i bolisïau amaethyddol a chynlluniau cymorth Cymru yn effeithio’n uniongyrchol ar ein haelodau ac rydym yn teimlo’n rhwystredig bod pwyntiau a godwyd ganddynt a sefydliadau ffermio mewn ymateb i ymgynghoriadau blaenorol wedi cael eu hanwybyddu gan Lywodraeth bresennol Cymru,” meddai.

“Yr hyn a ddaeth i’r amlwg pan oeddem yn siarad â’n haelodau, oedd bod llawer o’r farn bod y canlyniadau amgylcheddol a ddymunir gan Lywodraeth Cymru yn gyffredinol wedi arwain at ‘gwneud / ffermio llai’.

“Mae hyn, wrth gwrs, yn peri pryder i’r economi wledig ehangach, sy’n elwa’n fawr o wariant a gweithgarwch lleol ffermwyr, yn ogystal ag i rywogaethau sy’n dibynnu ar amaethyddiaeth a rheoli tir ffynnu.”

“Chwarae rhan weithredol”

Mae Glyn Roberts yn cydnabod bod y diwydiant amaethyddiaeth yng Nghymru yn wynebu cyfnod o ansicrwydd enfawr yn sgil y pandemig a rhwystrau masnach newydd Brexit a’r “posibilrwydd o fasnachu gyda gwledydd sydd â safonau llawer is,” meddai.

Dywedodd ei fod o’r farn y byddai’r cynigion sydd wedi eu hargymell yn y papur gwyn yn “gwaethygu’r problemau hyn ac yn bygwth hyfywedd ffermydd teuluol Cymru sy’n ganolog i’n heconomïau a’n diwylliant gwledig.

“Er mwyn sicrhau bod ffermwyr yn chwarae rhan weithredol yn niwygiadau amaethyddol mwyaf yng Nghymru ers mwy na hanner canrif, bydd angen i Lywodraeth nesaf Cymru wneud llawer mwy i ymgysylltu â’r diwydiant a lleddfu’r pryderon a fynegwyd yn ein hymateb i’r ymgynghoriad hwn,” meddai.

Cyhoeddi Papur Gwyn ar Amaethyddiaeth yng Nghymru

Mae rhai eisoes wedi beirniadu’r cynlluniau am beidio cynnig digon o sicrwydd a chefnogaeth i’r diwydiant amaethyddol