Mae Llywodraeth Lafur Cymru yn trin busnesau gyda “dirmyg” drwy beidio â darparu digon o gefnogaeth iddyn nhw na llwybr clir allan o’r cyfnod clo, yn ôl arweinydd Plaid Cymru, Adam Price.

Daw ei sylwadau wrth i weinidogion Llywodraeth Cymru a swyddogion iechyd gwrdd heddiw (Dydd Iau, Mawrth 25) i drafod llacio’r cyfyngiadau teithio ymhellach dros y Pasg.

Ond yn ôl Adam Price, tra bod y Llywodraeth yn fodlon cefnogi busnesau mawr fel Aston Martin, Amazon ac Ineos, does “dim hanner digon o gefnogaeth” i fusnesau annibynnol Cymru.

Ychwanegodd bod busnesau wedi cael eu “cadw yn y tywyllwch” o ran ail-agor eu busnesau a dim targed neu ddyddiadau pryd fyddan nhw’n gallu ail-agor yn ddiogel. Mae wedi galw am lwybr mwy clir ar gyfer busnesau.

 “Angen mwy o gymorth ariannol”

Mae Adam Price hefyd yn dweud bod angen mwy o gymorth ariannol ar gyfer busnesau lletygarwch a hamdden yng Nghymru, gan awgrymu y dylen nhw gael grantiau i’w helpu gyda’r costau o ail-agor.

Fe fydd ceisiadau ar gyfer Cronfa Cyfyngiadau Busnes Llywodraeth Cymru yn cau ar Fawrth 31 a hyd yn hyn does dim cynllun arall wedi’i gyhoeddi, meddai.

Ychwanegodd bod Llywodraeth yr Alban eisoes wedi cyhoeddi y bydd grantiau o £7,500 ar gael ar gyfer manwerthwyr a hyd at £19,500 ar gyfer busnesau lletygarwch a hamdden ym mis Ebrill i helpu busnesau i ail-agor yn raddol.

“Angen mwy o dryloywder”

“Mae’r cydbwysedd rhwng rhoi gobaith a chodi disgwyliadau afrealistig yn llinell anodd ei droedio. Ond yr hyn mae busnesau Cymru, yn enwedig y sector lletygarwch, yn ei wynebu ar hyn o bryd yw gêm o ddyfalu gyda chynlluniau annelwig, a mwy o rwystr na llwybr clir [allan o’r cyfyngiadau].

“Dy’n ni ddim yn galw am ddyddiad ar gyfer dod â’r holl gyfyngiadau i ben – dim ond mwy o dryloywder rhwng nawr a diwedd mis Mehefin ynglŷn â’r hyn sy’n debygol o ddigwydd er mwyn caniatáu i fusnesau gynllunio ymlaen llaw.”