Fe fydd Cabinet Llywodraeth Cymru a swyddogion iechyd yn cwrdd heddiw (Dydd Iau, Mawrth 25) i drafod y posibilrwydd o lacio’r cyfyngiadau teithio ymhellach dros y Pasg.

Mae’r Prif Weinidog Mark Drakeford eisoes wedi awgrymu y gallai’r rheol aros yn lleol gael ei godi o fewn dyddiau a fyddai’n caniatáu i bobl deithio ymhellach am y tro cyntaf ers mis Rhagfyr. Dywedodd ei fod yn “optimistaidd” y byddai’r rheol yn cael ei godi wrth i achosion o’r coronafeirws barhau i ostwng.

Fe fydd ysgolion yn cau ar gyfer gwyliau’r Pasg ddydd Gwener ac mae Mark Drakeford wedi awgrymu y gallai’r gwaharddiad ar deithio gael ei godi o ddydd Sadwrn, Mawrth 27.

Mae hefyd wedi awgrymu ei fod yn gobeithio y bydd lletyau gwyliau hunan-ddarpar yn gallu ail-agor dros y Pasg.