Mae Boris Johnson dan bwysau i gynyddu cyflogau staff y Gwasanaeth Iechyd (GIG) ar ôl i fwy na 150,000 o weithwyr iechyd yn yr Alban gael cynnig codiad o 4%.

Mae gweithwyr yn Lloegr wedi cael cynnig cynnydd o 1% yn unig.

Ond yn yr Alban, mae mwy na 154,000 o staff y GIG yn y band cyflog rhwng un a saith wedi cael cynnig o leiaf 4%, a fydd yn cael ei ddyddio nol i Ragfyr 1.

Mae hyn yn cynnwys parafeddygon, nyrsys a staff cynorthwyol fel porteriaid ac mae’n ychwanegol i’r taliad o £500 a gafodd gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol i ddiolch iddyn nhw am eu gwaith yn ystod y pandemig.

Mae undeb Unsain wedi dweud y dylai Llywodraeth San Steffan “ddilyn esiampl yr Alban”.

“Mae gwerthfawrogi staff iechyd a buddsoddi yn y GIG yn ddewis gwleidyddol. Un nad yw Boris Johnson a Rishi Sunak yn fodlon ei wneud,” meddai Sara Gorton o undeb Unsain.

“Ar ôl blwyddyn anodd a hir fe ddylai codiad cyflog i staff y GIG fod yn benderfyniad syml i’w wneud ac yn boblogaidd gyda’r cyhoedd.

“Fe ddylai Llywodraeth San Steffan ddysgu o esiampl yr Alban,” ychwanegodd.

Mae gweinidogion eisoes wedi dadlau mai 1% yw’r hyn mae’r Llywodraeth yn gallu fforddio yn sgil y pandemig a thra bod cyflogau gweithwyr eraill y sector cyhoeddus wedi cael eu rhewi.