Mae canllawiau newydd yn golygu bydd baner Jac yr Undeb yn chwifio uwch ben adeiladau Llywodraeth y Deyrnas Unedig yng Nghymru, Lloegr a’r Alban drwy’r amser, mewn ymgais i uno’r genedl.
Ar hyn o bryd, dim ond ar ddiwrnodau penodedig mae’n ofynnol hedfan y faner.
Y nod yn ôl rhai gweinidogion yw “ein hatgoffa o’n hanes a’r cysylltiadau sy’n ein rhwymo.”
“Symbol o ryddid ac undod”
Mae’r Ysgrifennydd Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol y Deyrnas Unedig, Robert Jenrick wedi ysgrifennu at bob cyngor yn Lloegr mewn ymgais i’w hannog i chwifio’r faner ar eu hadeiladau.
“Mae baner ein cenedl yn symbol o ryddid ac undod sy’n creu ymdeimlad o falchder dinesig,” meddai Robert Jenrick.
“Mae pobl yn disgwyl gweld baner yr Undeb yn hedfan yn uchel ar adeiladau’r Llywodraeth ar hyd a lled y wlad, fel arwydd o’n hunaniaeth leol a chenedlaethol.
“Dyna pam rwy’n galw ar bob cyngor lleol i chwifio baner yr Undeb ar eu hadeiladau – a bydd canllawiau heddiw yn eu galluogi i wneud hynny.”
Yn ôl Ysgrifennydd Diwylliant y Deyrnas Unedig, Oliver Dowden:
“Mae baner yr Undeb yn ein huno fel cenedl ac mae pobl yn iawn i ddisgwyl iddi gael ei hedfan uwchben adeiladau Llywodraeth y Deyrnas Unedig.
“Bydd y canllawiau hyn yn sicrhau bod hynny’n digwydd bob dydd, oni bai bod baner arall yn cael ei hedfan, er mwyn ein hatgoffa o’n hanes a’r cysylltiadau sy’n ein rhwymo.”
Daw’r drafodaeth wedi i Charlie Stayt a Naga Munchetty o’r BBC gael eu beirniadu am gyfeirio at faint baner yr Undeb Robert Jenrick mewn cyfweliad ag ef yr wythnos ddiwethaf.
Dywedodd y BBC eu bod wedi derbyn cwynion gan bobl oedd yn “anhapus” ynglŷn a sylwadau Charlie Stayt ac ymddygiad dilynol Naga Munchetty ar y cyfryngau cymdeithasol, yn dilyn y digwyddiad ar BBC Breakfast.
“Ni ddylai gael ei ddefnyddio at ddibenion gwleidyddol”
Pan ofynnwyd wrth Ysgrifennydd Cymru, Simon Hart ddoe (Mawrth, 24) a ddylai baner yr Undeb fod yn fwy amlwg yng Nghymru, dywedodd:
“Rwy’n credu bod baner yr Undeb yn frand eiconig.
“Ond dydw i ddim yn meddwl dylid cael ei ddefnyddio at ddibenion gwleidyddol.
“Rwy’n credu y byddai hynny’n beth rhyfedd i’w wneud, rhyw fath o geisio gwneud pwynt gwleidyddol allan ohono.
“Dyma’r faner yn y Deyrnas Unedig. Rwy’n credu ei fod yn cael ei gydnabod ar draws y byd fel hynny, a’i barchu ar draws y byd ac mae’n debyg bod baner Cymru’r un mor amlwg, sydd â brand perthnasol ynddo’i hun.
“Dydw i erioed wedi meddwl bod baneri yn rhan o arfau gwleidyddol, dwi ddim yn meddwl y dylen nhw fod.
“Fy marn i am yr Undeb yw nad yw’n blaid wleidyddol, ac ni ddylem wleidyddoli’r Undeb.”