Mae Gwersyll yr Urdd Glan-llyn yn lansio llety newydd hunangynhaliol, yn dilyn prosiect adnewyddu gwerth £800,000.

Lleolir y tŷ 10 llofft tua 200 metr o brif safle Gwersyll Glan-llyn, ac mae’r gwaith adnewyddu wedi trawsnewid yr adeilad i fod yn ofod modern sy’n cysgu 40 person.

Mae datblygiad Glan-llyn Isa’n ateb y galw gan aelodau hŷn yr Urdd am lety sy’n annibynnol o brif safle’r gwersyll, ac mae wedi’i ddylunio i fod yn hunangynhaliol.

Cafodd yr adnewyddu ei gefnogi’n ariannol gan Raglen Ysgolion a Cholegau’r 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru, ac roedd y buddsoddiad wedi’i glustnodi cyn dyfodiad Covid-19.

Mae Glan-llyn Isa’ yn cynnwys lolfa fawr a chegin fodern, gardd eang, cegin awyr agored, poptai pitsa a thân agored, ac mae llwybr troed yn ei gysylltu gyda’r gwersyll a phentref Llanuwchllyn

Gall gwesteion fanteisio ar weithgareddau awyr agored Gwersyll Glan-llyn, neu drin y safle fel endid ar wahân.

Caniatáu i fwy o bobol ifanc fwynhau “rhagor o anturiaethau”

“Rwy’n hynod falch o fedru cefnogi’r Urdd gyda’r fenter newydd hon a hynny drwy ein Rhaglen Ysgolion a Cholegau’r 21ain Ganrif,” meddai Kirsty Williams, Gweinidog Addysg Llywodraeth Cymru.

“Mae Glan-llyn wedi galluogi miloedd o bobl ifanc i herio eu hunain, codi eu hunanhyder a gwella eu sgiliau rhyngbersonol, a hynny oll wrth ddatblygu eu sgiliau iaith Gymraeg. Bydd canolfan newydd Glan-llyn Isa’ yn caniatáu i hyd yn oed mwy o bobol ifanc fwynhau rhagor o anturiaethau, yn un o leoliadau harddaf Gymru.

“Mae’r Urdd yn cynnig cyfleoedd hanfodol i’n plant a’n pobl ifanc ddysgu y tu allan i’r ystafell ddosbarth. Edrychaf ymlaen at weld Glan-llyn Isa’ yn parhau i ysbrydoli cenedlaethau o’n pobl ifanc.”

“Dihangfa berffaith”

“Mi fydd Glan-llyn Isa’ yn darparu’r ddihangfa berffaith i grwpiau sy’n ysu am brofiad mwy annibynnol o brif safle’r ganolfan, megis grwpiau o ysgolion, colegau a phrifysgolion, teuluoedd a ffrindiau fel ei gilydd. Cynigiwyd y syniad yma gan bobl ifanc sy’n ymweld â ni’n rheolaidd,” eglura Huw Antur Edwards, Cyfarwyddwr Gwersyll Glan-llyn.

“Diolchwn i Lywodraeth Cymru am eu cymorth ariannol hanfodol yn ystod yr adeg anodd yma,” ychwanega Siân Lewis, Prif Weithredwr Urdd Gobaith Cymru.

“Edrychwn ymlaen at weld Glan-llyn Isa’ yn cyflawni’i photensial fel canolfan addysg ac adnodd newydd gwych i’r Urdd, a’n helpu ni barhau i chwarae rhan bwysig o fewn yr economi leol.”

Yn ddiweddar, fe wnaeth Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg, gyhoeddi y bydd yr Urdd yn derbyn £1.3 miliwn ychwanegol gan Lywodraeth Cymru i ddelio ag effaith y pandemig.

Ar ddechrau’r flwyddyn bu Prif Weithredwr yr Urdd yn sgwrsio â golwg360 am heriau’r pandemig, a’r dyfodol. Gallwch ddarllen hynny isod.

Yr Urdd yn addasu ac arallgyfeirio i oroesi

Lleu Bleddyn

Wrth i un o wersylloedd yr Urdd baratoi i ofalu am gleifion Covid, Siân Lewis sydd yn edrych yn ôl ar gyfnod ‘mwyaf heriol’ yn hanes y mudiad