Mae cyn-Aelod Seneddol sir Drefaldwyn, Glyn Davies, yn credu fod statws sawl aelod o’r teulu brenhinol wedi “gwella” yn ddiweddar.
Fe wnaeth cyfweliad damniol Meghan a Harry gydag Oprah Winfrey arwain at sgwrs ynghylch dyfodol y teulu brenhinol.
Mae nifer o sylwebyddion, gan gynnwys y canwr, dyn busnes, ymgyrchydd iaith a gwleidydd, Dafydd Iwan, wedi awgrymu fod y teulu brenhinol mewn twll yn dilyn y cyfweliad.
Yn ystod cyfweliad gydag Oprah Winfrey, fe wnaeth Harry a Meghan ddarlunio’r teulu brenhinol fel sefydliad di-hid a hiliol oedd wedi methu â’u cefnogi, yn bennaf wrth i Meghan fethu ag ymdopi â straen meddyliol.
Er hynny, mae’r cyn-Aelod Seneddol Ceidwadol yn credu bod posib i’r teulu symud yn eu blaenau.
“Statws wedi gwella”
“Rydw i’n credu bod statws sawl aelod o’r teulu brenhinol wedi gwella, yn enwedig yn ystod argyfwng Covid,” meddai Glyn Davies wrth golwg360.
“Credaf fod enw da a statws y Frenhines, William, a Charles wedi gwella yn ddiweddar.”
Roedd y cyfweliad yn portreadu’r sefydliad fel un hiliol, yn enwedig wrth i Meghan a Harry ddweud bod aelodau o’r teulu wedi codi pryderon ynghylch lliw croen plentyn Meghan.
Penderfynodd Glyn Davies beidio â gwylio’r cyfweliad, ond dywedodd ei fod yn “gwrthod” y cyfeiriad tuag at y teulu brenhinol fel sefydliad “hiliol”, gan ddweud ei fod yn “wirion, a dim byd fel y gwir.”
“Y sment sy’n dal y wlad gyda’i gilydd”
Wrth siarad gyda golwg360 wythnos diwethaf, dywedodd Dafydd Iwan ei fod yn credu bod “y sefydliad sy’n rhedeg y teulu brenhinol rhy haearnaidd, hen-ffasiwn, sefydledig, Seisnig, anhyblyg, a’u bod nhw ddim yn symud ymlaen.”
Roedd sawl un credu y byddai’r sefydliad yn moderneiddio yn sgil cael dau gwpwl ifanc yn aelodau gweithiol o’r teulu, ond mae hynny’n ymddangos yn fwy anhebygol ers i Meghan a Harry symud i America.
“Rydw i’n credu [y gallen nhw symud ymlaen], nhw yw’r sment sy’n dal y wlad gyda’i gilydd,” meddai Glyn Davies.
“Yn fy marn i, ac rydw i’n gefnogwr anferth i’r teulu brenhinol, maen nhw’n gwneud gwaith ardderchog i’r wlad.
Wrth ystyried sylwadau Dafydd Iwan, dywedodd Glyn Davies y byddai’n “hoffi pe na bai wedi dweud hynny”.
“Hoffwn pe bai neb yn dweud pethau felly, dydi siarad felly ddim yn helpu i ddod â’r Deyrnas Unedig ynghyd.”
“Y Deyrnas Unedig yn eithriadol o lwcus”
Nid yw Glyn Davies yn credu y dylid cael gwared ar y teulu brenhinol, yn gyffredinol nac yng Nghymru.
“Rydw i’n credu bod statws y Frenhines wedi codi, mae’n rhaid dweud. Ni allaf gredu sut y gall neb fod yn berson mor dda ag ydi hi. Credaf fod Charles yr un fath, ac mae William yn datblygu’n dda iawn.
“Mae William a Kate wedi’u creu ar gyfer y swydd. Dw i’n credu bod y Deyrnas Unedig gyfan yn eithriadol o lwcus.”
“Rydw i’n credu bod Meghan a Harry yn byw’r bywyd maen nhw am ei fyw. Yn amlwg, os ydych chi’n aelod gweithiol o’r teulu brenhinol mae rhwystrau ar yr hyn allwch chi wneud, ac os nad ydych chi eisiau gwneud hynny yna mae Meghan a Harry wedi gwneud yr hyn sy’n iawn iddyn nhw.
“Dydw i’n sicr ddim yn anghytuno gyda hynny,” pwysleisiodd.