Elle Taylor o Rydaman yw’r person cyntaf i dderbyn brechlyn Moderna yn y Deyrnas Unedig.
Derbyniodd Elle, sy’n 24 oed ac yn gweithio mewn coleg addysg bellach yn Llanelli ynghyd â gofalu am ei nain, y brechlyn yn Ysbyty Glangwili.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi derbyn 5,000 o frechlynnau yn y lle cyntaf, i’w dosbarthu mewn canolfannau brechu, gan ddechrau yng Nghaerfyrddin.
“Rydw i wedi fy nghyffroi, ac yn hapus,” meddai ar ôl ei dderbyn.
“Rydw i’n ofalwraig ddi-dâl sy’n gofalu am fy nain, felly mae’n bwysig fy mod i’n ei dderbyn fel fy mod i’n gallu gofalu amdani yn iawn, ac yn ddiogel.”
Cafodd wybod neithiwr (Ebrill 6), mai hi fyddai’r person cyntaf yn y Deyrnas Unedig i dderbyn brechlyn Moderna.
Pigiad
“Roedd yn wych, roedd y nyrsys yn hyfryd, a ni wnaeth y pigiad frifo.”
“Rydw i wrth fy modd, yn hapus iawn, ac yn teimlo’n freintiedig,” meddai wrth esbonio sut yr oedd hi’n teimlo o wybod ei bod hi’n arwain y ffordd ar gyfer miliynau o bobol eraill.
“Gobeithio y bydd popeth yn mynd yn iawn i bawb arall.”
Mae’r Deyrnas Unedig wedi prynu 17 miliwn dos o’r brechlyn, sy’n ddigon i frechu 8.5 miliwn o bobol.
“Dyma garreg filltir allweddol arall yn ein brwydr yn erbyn y pandemig Covid-19,” meddai Vaughan Gething, Gweinidog Iechyd Cymru.
“Mae cael trydydd brechlyn i’w ddefnyddio yng Nghymru yn ychwanegu’n sylweddol at ein hamddiffyniad yn erbyn y coronafeirws a bydd yn helpu i ddiogelu ein pobol fwyaf agored i niwed.
“Mae pob brechiad a roddir i rywun yng Nghymru yn fuddugoliaeth fach yn erbyn y feirws ac rydym yn annog pawb i fynd i gael eu brechu pan gân nhw eu gwahodd.