Mae’r Ymddiriedolaethau Natur wedi codi bron i £8 miliwn mewn chwe mis ar ôl lansio eu cynllun i adfer byd natur.

Bwriad y cynllun 30 Wrth 30 yw rhoi hwb i fyd natur dros 30% o dir y Deyrnas Unedig erbyn 2030.

Bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio i sicrhau cynefinoedd newydd i fywyd gwyllt, a chaniatáu i fyd natur ffynnu.

Heddiw (Ebrill 7), mae’r Ymddiriedolaethau Natur wedi cyhoeddi deg cynllun fydd yn cyfrannu tuag at yr ymgyrch – gydag un ohonynt ym Maesyfed.

Bydd Ymddiriedolaeth Natur Maesyfed yn adfer porfa Rhos er mwyn cynnig cynefin i löynod byw.

Glaswelltir corsiog ydi’r Rhos, a gallai ddarparu lloches i’r gïach cyffredin a’r gylfinir.

Gwenyn

Mae’r ardal hefyd yn addas i gefnogi rhywogaethau pwysig a phrin o löynod byw, gan gynnwys y Fritheg Berlog a Britheg y Gors. Un o brif nodau’r prosiect yw adfer Britheg y Gors i Sir Faesyfed.

Mae rhai o’r prosiectau eraill yn cynnwys newid hen gwrs golff yn Carlisle yn gynefin i wenyn a glöynod byw, a sicrhau dyfodol dôl o flodau gwyllt yn Swydd Henffordd.

Nod y rhaglen yw dadwneud degawdau o ddirywiad a bygythiadau i fyd natur, ac mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Amrywiaeth Fiolegol yn nodi bod angen gwarchod 30% o diroedd a moroedd y ddaear o fewn y degawd er mwyn atal dinistrio bioamrywiaeth y blaned.

Mae Sir David Attenborough, Llywydd Emeritws yr Ymddiriedolaethau Natur, yn cefnogi’r rhaglen 30 Wrth 30.

“A rhoi’r cyfle iddo – gall natur adfer yn rhyfeddol,” meddai Sir David Attenborough.

“Mae ymgyrch yr Ymddiriedolaethau Natur i sicrhau fod 30% o’n tiroedd a’n moroedd yn cael eu defnyddio i adfer byd natur erbyn 2030 yn cynnig gweledigaeth ac uchelgais – rhywbeth sydd ei angen ar frys ar gyfer dadwneud y dirywiad i fyd natur, a gwella ein bywydau.

Argyfwng

“Rydym ni’n wynebu argyfwng hinsawdd a fyddai’n golygu fod nifer o rywogaethau yn diflannu, a byddai’n effeithio ar bob un ohonom.

“Mae’n hawdd cymryd fod colli byd natur, a llefydd gwyllt, yn broblem sy’n digwydd ar ochr arall y byd.

“Ond, y gwir amdani yw mai’r Deyrnas Unedig yw un o’r gwledydd lle mae natur fwyaf prin, ac mae’r sefyllfa’n gwaethygu,” rhybuddia.

“Mae’r dirywiad sydyn mewn bywyd gwyllt, a’r ffaith fod nifer o rywogaethau dan fygythiad o ddiflannu, yn golygu bod rhaid gweithredu yn gynt nag erioed,” ychwanega Craig Bennett, Prif Weithredwr yr Ymddiriedolaethau Natur.

“Nid yw diogelu’r natur sydd ar ôl yn ddigon; mae’n rhaid i ni adfer natur, a gwneud hynny ar raddfa fawr, ac ar frys.

“Rydym ni wedi cael ein hysbrydoli gan gefnogaeth y cyhoedd tuag at ein gweledigaeth.”