Mae cannoedd o weithwyr y DVLA yn Abertawe yn cynnal streic o’r newydd wrth i’w pryderon am eu diogelwch yn sgil Covid-19 barhau.
Bydd aelodau undeb y PCS sy’n gweithio ar y safle ar streic o heddiw (dydd Mercher, Mehefin 2) tan ddydd Sadwrn (Mehefin 5).
Daw hyn wrth i’r undeb rybuddio y gallai’r gweithredu diwydiannol bara rhai misoedd eto.
Dyma’r trydydd tro i’r staff gynnal streic wrth iddyn nhw alw am gyflwyno rhagor o fesurau diogelwch mewn gweithle sy’n aml yn orlawn.
Ond mae’r DVLA yn mynnu eu bod nhw wedi gwneud popeth o fewn eu gallu i gadw’r gweithwyr yn ddiogel, a’u bod nhw wedi dilyn yr holl ganllawiau swyddogol.
Cefnu ar gytundeb
Yn ôl Mark Serwotka, ysgrifennydd cyffredinol undeb y PCS, fe ddaeth y gweithwyr i gytundeb â’r DVLA i ddod â’r streicio i ben ond cafodd y cytundeb ei dynnu’n ôl ar yr unfed awr ar ddeg.
“Rydym yn amau’n gryf fod uwch weinidogion yn yr Adran Drafnidiaeth wedi ymyrryd â’r cynnydd roedden ni’n ei wneud a’u bod nhw eisiau gwneud rhyw fath o safiad ideolegol yn erbyn y PCS,” meddai.
“Maen nhw wedi tanbrisio’n fawr iawn wydnwch ein haelodau yn y DVLA ac wedi eu cryfhau nhw i dargedu a chynnal gweithgarwch dros y misoedd sydd i ddod hyd nes eu bod nhw’n ennill.
“Mae’r PCS yn barod iawn am fisoedd o weithredu’n ddiwydiannol, ac rydym yn annog y Llywodraeth i ailfeddwl am eu safbwynt.”