Mae llai na 30 diwrnod ar ôl i ddinasyddion yr Undeb Ewropeaidd wneud cais am statws preswylydd sefydlog yn y Deyrnas Unedig.

Wrth i’r dyddiad cau agosáu, mae Llywodraeth Cymru yn annog pobol sy’n byw yng Nghymru i fanteisio ar y cymorth am ddim sydd ar gael i’w helpu i lenwi eu cais.

Mae’r Cynllun gan y Swyddfa Gartref yn cynnig y cyfle i ddinasyddion yr Undeb Ewropeaidd, dinasyddion o’r Ardal Economaidd Ewropeaidd nad ydyn nhw yn yr Undeb Ewropeaidd a dinasyddion y Swistir, ynghyd ag aelodau o’u teuluoedd sy’n gymwys, ddiogelu eu statws preswylio.

Bydd gan holl ddinasyddion yr Undeb Ewropeaidd, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yr hawl i fyw a gweithio yn y Deyrnas Unedig, ynghyd â’r hawl i wasanaethau fel gofal iechyd, tai, addysg a’r hawl i bleidleisio hyd nes y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau.

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau i’r Cynllun hwn yw dydd Mercher, 30 Mehefin 2021.

Mae’r pecyn cymorth parhaus hwn yn cynnwys:

  • cymorth digidol ar gyfer ceisiadau am statws preswylydd sefydlog neu ag ymholiadau cyffredinol ynghylch pwy sy’n gymwys gan Gyngor ar Bopeth
  • cyngor ar faterion llesiant cymdeithasol a hawliau yn y gweithle
  • cyngor arbenigol am ddim ar fewnfudo i bobl ag anghenion cymhleth, gan y cwmni cyfreithiol Newfields Law, sy’n arbenigo mewn cyfraith fewnfudo
  • gwasanaethau allgymorth ar gyfer grwpiau anodd eu cyrraedd ac agored i niwed.

“Mae dinasyddion yr Undeb Ewropeaidd sy’n byw yng Nghymru’n gwneud cyfraniad enfawr i’n heconomi a’n cymdeithas – mae croeso yma i chi,” meddai Jane Hutt, y Gweinidog sy’n gyfrifol am Gyfiawnder Cymdeithasol.

“Gan fod llai na 30 diwrnod ar ôl i wneud cais am Statws Preswylydd Sefydlog, rwy’n annog yn gryf fod unrhyw un sydd heb ymgeisio eto yn gwneud hynny.

“Mae llawer o gymorth am ddim ar gael i’ch helpu, waeth beth yw eich amgylchiadau na lle yng Nghymru rydych chi’n byw.

“Rydyn ni’n parhau’n bryderus am y nifer o ddinasyddion yr Undeb Ewropeaidd sy’n hŷn neu’n agored i niwed sydd heb ymgeisio eto.

“Os oes gennych ffrind neu aelod o’r teulu sydd angen ymgeisio, helpwch nhw i fanteisio ar y cymorth sydd ar gael iddynt.”

“Peidiwch â chymryd yn ganiataol nad yw’r cynllun hwn yn berthnasol i chi”

“Bob wythnos, mae miloedd o bobol yn cysylltu â Settled i gael cymorth â’u ceisiadau i’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog,” meddai Kate Smart, Prif Swyddog Gweithredol yr elusen Settled.

“Mae hyn yn cynnwys nifer sydd wedi byw yn y Deyrnas Unedig ers degawdau, ac sydd ond newydd sylwi bod yn rhaid iddyn nhw ymgeisio o dan y cynllun hefyd.

“Mae gan nifer fawr o’r preswylwyr hirdymor hyn yn y Deyrnas Unedig gerdyn preswylydd parhaol ac maen nhw’n poeni’n arw.

“Mae ein neges yn syml; peidiwch â chymryd yn ganiataol nad yw’r cynllun hwn yn berthnasol i chi – gwiriwch fod eich statws yn ddilys.

“Mae Settled yma i helpu pawb sydd wedi cael anawsterau â’u cais i’r cynllun hwn.”