“Dim rhagor o addewidion gwag” tros Ddeddf Iaith Wyddeleg yw neges Michelle O’Neill, Diprwy Brif Weinidog Iwerddon, wrth iddi fynnu y dylai’r ddeddfwriaeth gael ei chyflwyno yn ystod tymor presennol y Senedd.
Yn ystod cwestiynau’r Swyddfa Weithredol yn Stormont, mynnodd Michelle O’Neill hefyd fod ei phlaid wedi ymrwymo i rannu grym pan gafodd ei holi a allai Sinn Fein wrthod ailenwebu dirprwy brif weinidog oni bai bod y ddeddfwriaeth yn mynd rhagddi.
Ymrwymodd cytundeb Dull Newydd Degawd Newydd yn 2020 bleidiau gwleidyddol Gogledd Iwerddon i sefydlu Swyddfa Hunaniaeth a Mynegiant Diwylliannol, a fyddai’n rhoi darpariaeth ar waith ar gyfer gwasanaethau yn yr iaith Wyddeleg a Scots Ulster.
Fodd bynnag, dros flwyddyn yn ddiweddarach, ni fu unrhyw gynnydd ar yr ymrwymiadau.
Gyda disgwyl i Edwin Poots, arweinydd newydd y DUP, gyhoeddi ei dîm gweinidogol yn fuan, bu dyfalu y gallai Sinn Fein ddefnyddio’r weithdrefn enwebu i geisio sicrwydd ynghylch amddiffyn hawliau siaradwyr Gwyddeleg.
Bydd y broses o ailenwebu Prif Weinidog a Dirprwy Brif Weinidog yn cael ei sbarduno unwaith y bydd Arlene Foster yn ymddiswyddo.
Pan gafodd ei holi am y mater hwnnw heddiw (dydd Mawrth, Mehefin 1), dywedodd Edwin Poots “yn sicr” nad yw e “wedi cael unrhyw wltimatwm ac nid wyf yn disgwyl cael wltimatwm”.
Yn Stormont, dywedodd Michelle O’Neill ei bod hi’n “credu wrth i ni gamu allan o gysgod Covid-19 fod angen i ni nawr weld cytundeb gwleidyddol y Degawd Newydd yn cael ei gyflawni”.
“Dull Newydd sy’n rhoi’r potensial i ni gyd gael dechrau newydd mewn llywodraeth sy’n rhannu grym,” meddai.
“Roedd yr ymrwymiad i Ddeddf Iaith Wyddeleg yn elfen allweddol o fargen yr NDNA a dyna pam mae angen i ni weld y darnau o ddeddfwriaeth iaith a diwylliant yn cael eu cyflawni o fewn mandad y Cynulliad hwn.
“Nid yw methu ag anrhydeddu’r ymrwymiadau hyn yn sefyllfa gynaliadwy.
“Ni ellir camu’n ôl ar yr ymrwymiadau a wnaed ac ni ellir cael rhagor o addewidion gwag.”
‘Does gan neb unrhyw beth i’w ofni o Ddeddf Iaith Wyddeleg’
“Byddwch yn ymwybodol mai dim ond yr wythnos diwethaf roedd y gymuned Wyddeleg y tu allan i’r adeilad hwn yn protestio, gan wneud eu rhwystredigaeth ynglŷn â’r diffyg gweithredu ar yr hyn y cytunwyd arno,” meddai Emma Sheerin o Sinn Fein wedyn.
Atebodd Michelle O’Neill drwy ddweud eu bod yn “rhedeg allan o amser”.
“Mae ffenestr fer ar ôl yn y mandad felly mae’n bwysig ein bod yn bwrw ymlaen â chyflawni’r ddeddfwriaeth a sicrhau bod y cyhoedd yn cael yr hyn y maen nhw’n yn ei ddisgwyl,” meddai.
Gofynnodd arweinydd TUV Jim Allister a oedd Sinn Fein yn bwriadu gwrthod enwebu dirprwy brif weinidog hyd nes iddyn nhw dderbyn Deddf Iaith Wyddeleg.
Atebodd Michelle O’Neill ei bod hi’n “awyddus i wneud i wleidyddiaeth weithio ac i gael yr ymrwymiadau gwleidyddol y cytunwyd arnyn nhw” ac nad oes “gan neb unrhyw beth i’w ofni o Ddeddf Iaith Wyddeleg”.
“Cwestiwn syml; a fydd Sinn Fein yn enwebu dirprwy brif weinidog os nad yw’r DUP yn bodloni eich telerau?” meddai Jim Allister wedyn.
“Mater i’r DUP yw pwy maen nhw’n penderfynu ei gyflwyno. Rwyf wedi ymrwymo i rannu grym, rwy’n gobeithio bod eraill wedi ymrwymo i rannu grym,” atebodd Michelle O’Neill.