Mae’r twf yn y gefnogaeth i annibyniaeth i Lydaw yn achosi “pryder parhaus i Baris”, yn ôl y bardd hanner Llydewig Aneirin Karadog.
Mae cyfrifon Twitter a Facebook ‘Yes Breizh’ wedi dod i’r amlwg ers rhyw fis, gan wthio’r ddadl o blaid annibyniaeth ar-lein.
Ond pa mor arwyddocaol yw’r twf yma? Ac ydi Llywodraeth Ffrainc yn gofidio?
“Yn eithaf cyson, bob tro y maen nhw’n gwneud arolwg barn am annibyniaeth i Lydaw mae yna tua 20% yn cefnogi annibyniaeth,” eglura Aneirin Karadog wrth golwg360.
“Mae hynny yn ddiddorol achos dyw e ddim felly yn ymwneud â medru’r iaith achos mae tua 200,000 o siaradwyr Llydaweg a phedair miliwn o boblogaeth.
“Felly does dim 20% o’r boblogaeth sy’n medru’r iaith.
“Felly mae hwnna yn achosi pryder parhaus i Baris, achos mae yna bobol sy’n amlwg yn ddi-Lydaweg ond sy’n teimlo yn hynod o Lydewig a ddim yn teimlo ymlyniad tuag at Ffrainc.
“Dyw e ddim i weld yn codi i’r fath raddau ac mae pethau wedi gwneud yng Nghymru, ond rydan ni wedi cael newidiadau seismig ym Mhrydain yn ddiweddar gyda Brexit a phob dim.”
Ymgyrch i hawlio Nantes yn ôl i Lydaw
Mae’r ymgyrch i hawlio dinas Nantes yn ôl i Lydaw yn codi stêm hefyd, yn ôl Aneirin Karadog.
“Mae yno hefyd ymgyrch i ail-uno dinas Nantes gyda Llydaw,” meddai.
“Gwahanwyd y ddinas (oddi wrth Lydaw) yn y 40au, felly mae’n eithaf diweddar ac mae yna ymdeimlad cryf o hunaniaeth Lydewig yn Nantes.
“Felly mae’r hunaniaeth yn gryf hyn yn oed os nad ydi’r iaith.”
#BrittanyIsANation with its own languages and evolving traditions, open to the world. There are now 193 independent nations. #Scotland 194, #Catalonia
(Avec ses propres langues et ses traditions en évolution, ouvertes sur le monde. Il y en a maintenant 193 nations indépendantes) pic.twitter.com/Rwld0xVAAk— YesBreizh (@yes_breizh) May 31, 2021
‘Diffyg gwybodaeth’
Er bod Aneirin Karadog yn credu bod agwedd Llywodraeth Ffrainc tuag at Lydaw a’r Llydaweg yn gwthio cefnogaeth i annibyniaeth, mae’n dweud bod yna “ddiffyg gwybodaeth am bethau hefyd”.
“Dw i’n adnabod dynes sy’n anfon ei phlant i ysgol Lydaweg, er ei bod hi’n dod o Ecwador ac wedi priodi Llydäwr di-Lydaweg,” meddai.
“Ond does gyda nhw ddim ymlyniad tuag at y wladwriaeth Ffrengig.
“Doedd hi chwaith ddim yn gwybod fod deddf Paul Molat wedi cael ei galw’n anghyfansoddiadol.”
Bwriad y gyfraith oedd datblygu ieithoedd rhanbarthol y wlad yn y cwricwlwm addysg yn Ffrainc.
Cafodd y ddeddf ei phasio o 247 pleidlais i 76, a hon oedd y gyfraith gyntaf yn Ffrainc i gefnogi ieithoedd rhanbarthol ers 1958.
“Felly dw i’n meddwl efallai bod yno ddiffyg gwybodaeth am bethau hefyd,” meddai wedyn.
“Dw i ddim yn siŵr, er enghraifft, faint o bobol sy’n gwybod fod y ddeddf yma wedi cael ei phasio yn y lle cyntaf.
“Ond yn sicr, dyw gweithredoedd fel sydd wedi bod yn mynd ymlaen yn ddiweddar o Baris ddim yn help i’w hachos nhw.
“Ac mae e yn gwneud i bobol anobeithio ac mae hwnna yn ei dro yn gwneud i bobol feddwl ‘wel, beth fedrwn ni wneud’ ac efallai y gwnawn nhw droi at opsiynau mwy eithafol wedyn.”