Mae Cyngor Cyfansoddiadol Ffrainc wedi gwrthod deddfwriaeth a fyddai wedi rhoi’r hawl i ysgolion ddysgu’r rhan fwyaf o’u gwersi trwy gyfrwng ieithoedd brodorol gan gynnwys y Llydaweg, y Fasgeg a’r iaith Gorsicaidd.
Dywedodd y Cyngor fod y cynllun arfaethedig yn “anghyfansoddiadol” am mai iaith gweriniaeth Ffrainc yw’r Ffrangeg.
Fe wnaethon nhw hefyd wahardd y defnydd o sillafiadau brodorol mewn dogfennau swyddogol, gan ddweud mai llythrennau ac acenion Ffrangeg yn unig fyddai’n cael eu caniatáu.
Gall ysgolion y wladwriaeth gynnig addysg ddwyieithog eisoes ond fis diwethaf, fe wnaeth senedd Ffrainc dderbyn deddfwriaeth i roi’r hawl i ysgolion cynradd ddysgu’r rhan fwyaf o bynciau mewn iaith frodorol a’r Ffrangeg.
Ond fe wnaeth y weinyddiaeth addysg apelio yn erbyn y penderfyniad, gan ddweud y gallai trwytho plant olygu na fyddan nhw’n dysgu sgiliau Ffrangeg i’r lefel sy’n ofynnol.
Yn ôl Paul Molac, oedd wedi bod yn ceisio hybu’r ieithoedd brodorol, mae penderfyniad y Cyngor Cyfansoddiadol “yn annealladwy”, ac mae’n rhybuddio bod “rhaid i ni roi’r gorau i ofni ieithoedd rhanbarthol, a’u gwarchod, eu caru a’u hachub nhw”.
Cofio hyn ? Ddoe ddaru gyngor cyfansoddiadol Ffrainc wrthod y ddeddf er gwaetha'r mwyafrif y bleidlais.Hyn fel sa Llundain yn penderfynu bod addysg Gymraeg yn answyddogol a llythrennau Cymraeg yn anghyfreithlon. Ma addysg fy mhlant yn ddiwerth yn ôl cyfraith a threfn gwlad.Waw. https://t.co/muEotDctvQ
— Lleuwen (@Lleuwen) May 22, 2021